Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sefydledig

sefydledig

Y gwrthdaro rhwng y grefydd sefydledig a 'zel danbaid' y methodistiaid yw cefndir Merch y Sgweiar Bobi Jones a ymddangosodd yn Barn, gyda'i phortread byw o Theophilus Evans, ac aiff Elwyn L.

Nid oedd yn dasg anodd profi ffolineb yr ensyniadau a gallai ddweud heb flewyn ar ei dafod fod y Methodistiaid yn gwbl deyrngar i gyfansoddiad Prydain ac i'r Eglwys Sefydledig.

Credent fod yr holl adroddiad, oherwydd y dewis o Ddirprwywyr a chynorthwywyr, yn rhan o gynllwyn bwriadol i hyrwyddo amcanion Pwyllgor y Cyngor dros Addysg, a chreu cyfundrefn addysg wladwriaethol a fyddai'n hybu egwyddorion yr Eglwys Sefydledig.

O safbwynt ystadegaeth a dylanwad, y datblygiad mwyaf arwyddocaol oedd gwaith y Methodistiaid Calfinaidd yn torri'r cysylltiad olaf â'r Eglwys Sefydledig.

Fe'i prentisiwyd yn grydd, ond yn hytrach na dilyn y grefft honno aeth yn fyfyriwr i Goleg Dewi Sant Llanbed ac oddi yno i Goleg Rhydychen, yna tua diwedd y ddeunawfed ganrif daeth yn Archesgob yr Eglwys Sefydledig yng Nghanada.

Wele'r dadleuon yn sownd yn y tywod ers i Thomas Charles ysgrifennu'r Welsh Methodists Vindicated - yr Eglwys Sefydledig yn amddiffyn ei safle drwy gyhuddo'r radicaliaid o ffurfio clymblaid annuwiol gyda'r Pabyddion er mwyn disodli'r wladwriaeth ei hun.

Prif arf ymosodiad y Seren Ogleddol ar yr Eglwys Sefydledig oedd cyfres o erthyglau a ysgrifennwyd gan Hugh Hughes ar ffurf llythyron at y Parchedig Ellis Annwyl Owen.

Er i'r cyfnewid cyhuddiadau hyn ymylu ar ryfel preifat rhwng y golygyddion o dro i dro, gan dueddu gadael y darllenwyr mewn penbleth ar yr ymyl, cyfrannodd at y broses o godi ymwybyddiaeth ynglŷn â mater yr Eglwys Sefydledig.

Cyfeiriad at fudiad yn y Senedd i ddiwygio'r Eglwys Sefydledig oedd hyn.