Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sefydlogrwydd

sefydlogrwydd

Cofier bod yna hylifau eraill sy'n dadelfennu'n araf ond gan fod yn rhaid i'r toddiant biolegol barhau am filoedd o filiynau o flynyddoedd disgwylir i'w sefydlogrwydd fod yn absoliwt.

Golygai ddiwedd y gwareiddiad uchelwrol mewn ardal neu gyndogaeth a thrychineb i drefn a sefydlogrwydd mewn cymdeithas.

Gan mai ychydig a wyddom am fiocemeg a nodweddion mecanyddol haen galed amddiffynnol o'r fath, mae'n hanfodol gwneud ymchwil cyn tarfu ar sefydlogrwydd y safle.

Hyd yn oed os na allwn dderbyn fod y gymdeithas ganoloesol mor ddigyfnewid ag y maentumia rhai, yr oedd iddi'n ddiau y sefydlogrwydd diwylliannol a sicrhâi barhad syniadau a pharhad œurfiau llenyddol.

O'r undod teuluol y datblygasai rhwymiadau priodasol i glynu teuluoedd a chynnal trefn a sefydlogrwydd.

Hyd yn oed o fewn sector sydd a chynrychiolaeth mor uchel nid yw'r rhagolygon am sefydlogrwydd economaidd yn rhai addawol iawn, gan fod llawer o'r ardal wedi'i dynodi yn Ardal Amaethyddol Llai Ffafriol.

Yr egwyddor sy'n sail i waith y Grwp Cynllunio Economaidd yw bod yn rhaid ymyrryd â'r farchnad rydd er mwyn cynllunio amodau economaidd sy'n rhoi sefydlogrwydd a gobaith i'r dyfodol i gymunedau Cymru.

Wrth edrych yn ôl, bach iawn hyd yn gymharol ddiweddar oedd y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn yn y Gyllideb: ac y mae'n annhebyg felly fod y rheiny wedi dylanwadu ryw lawer y naill ffordd neu'r llall ar gwrs yr economi, yn arbennig o gofio am y sefydlogrwydd cynhenid sy'n deillio o system trethiant esgynraddol, budd-daliadau diwaith, a sefydlogyddion tebyg.