Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

segur

segur

'Fydda i ddim yn meddwl amdanyn nhw fel llefydd segur, ond fel llefydd byw a diddorol iawn yn eu ffordd eu hunain'.

Dim un ddimai'n dyfod i mewn o unman, a phawb yn bwyta mwy na'i lwfans wrth fod gartref yn segur.

Mae'r bladur, y gribin, a'r bicfforch yn segur ers tro, ac mae'r trowr rhaffau, y stric a'r corn grit ar gyfer hogi yn rhan o gelfi crôg ystafell y gegin erbyn hyn.

Mae'r disgrifiad yn nodweddiadol o agwedd yr artist at chwareli segur yn gyffredinol.

Mae'r 'gweithdy saer' yn segur ers blynyddoedd lawer, a'r efail gof a oedd yn ymyl, hithau hefyd wedi cau.

Ef yw'r pren bywiol y mae ei ddail "i iacha/ u'r cenhedloedd." Mae'n dilyn na all Cristionogion fod yn segur heb gynorthwyo yn y gwaith gwefreiddiol o sicrhau fod y neges am y Gwaredwr yn cyrraedd pawb.

Mewn sioliau y mae'r mamau yn cario eu plant mân yn 'Diwrnod i'r Brenin' - a nodwch fod y mamau yn mynd â'u plant mân gyda nhw ar y trên i siopa er bod eu gwŷr yn segur gartref ac yn rhydd i'w gwarchod.

Dyna'r fan lle bu : y côr segur, a'r aerwy oer ynghrog ar y buddel, a pheth blew coch yn glynu o hyd wrth ei ddolennau.

'Poeni am fod yn segur wyt ti?

Byddai'n ddigon hawdd imi fod yn fodlon ar fy stad segur a stelcian yn fy nghadair ddydd a nos.

Un prynhawn yn yr haf, pan oedd y peiriannau'n segur, daeth gwyr y felin at ei gilydd y tu allan i fynedfa'r gwaith a chael hoe a sgwrs yn yr heulwen.

Os gweithiai ei thric hi, byddai bob brwsh a chlwt yn segur yn yr Hen Reithordy drannoeth.