Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

seiliedig

seiliedig

Am y tro cyntaf erioed cynigiodd y Brenin wobr deilwng iawn yn Eisteddfod Genedlaethol N'Og am gyfres o saith dysgl fwyd yn seiliedig ar y wnionyn, a chynigiodd mwy y flwyddyn honno nag ar yr englyn digrif.

Mae'r ddrama gerdd yn seiliedig ar hanes y dywysoges heledd, chwaer y tywyssog Cynddylan a'u cartref ym Mhengwern (Amwythig heddiw) tua'r chweched i'r seithfed ganrif.

Yn ddiweddar, cynhyrchwyd laser ffibr tiwnadwy yn seiliedig ar atomau praesodymiwm a thrwy ddefnyddio neodymiwm gellir adeiladu laser pwerus iawn - mwy pwerus hyd yn oed na'r Nd:YAG ar yr un donfedd.

Ceir cysylltiad agos rhwng y ffilm olaf hon â choel sy'n seiliedig ar gyfeiriad yn un o lyfrau'r Testament Newydd.

Nid oedd Coverdale yn hyddysg yn yr ieithoedd gwreiddiol, ac y mae ei fersiwn yn seiliedig ar fersiynau Lladin Pagninus ac Erasmus, ar fersiwn Almaeneg Luther ac ar fersiwn Saesneg Tyndale.

('Churching' yw'r enw Saesneg ar yr arfer.) Y mae'r arfer hwn yn seiliedig ar yr hen goel mai gweithred amhur oedd geni plentyn ac yn arbennig ar yr awydd i roi diolch i Dduw am eni plentyn newydd i'r byd.

Cafwyd rhaglenni unigol gan gynnwys comedi oedd yn seiliedig ar brotest y beirdd yn erbyn BBC Radio Cymru, rhaglen ddogfen i nodi pen-blwydd y Tywysog Siarl yn 50, cystadleuaeth garolau genedlaethol a chyngerdd acwstig gan BBC Radio Cymru o'r Ganolfan Technoleg Amgen yng nghanolbarth Cymru.

Golwg wahanol ar Gymru'r unfed ganrif ar bymtheg a gawn yn Dyddiadur Mari Gwyn Rhiannon Davies Jones sy'n seiliedig ar fywyd Robert Gwyn y ffoadur Catholig yn oes Elizabeth, ac y mae Bobi Jones yntau'n ymdrin ag argyhoeddiad crefyddol ysol Richard Gwyn y merthyr Catholig yn Gwed Gwyn yn Barn.

Mae'r gyfres yn seiliedig ar wrando, canu a chyd-ddarllen 8 llyfr poblogaidd gyda Iwan Tudor.

Un o fwriadau'r Pecyn HMS felly, yw cynnig cyfle i athrawon: * adfyfyrio ar eu harferion dysgu presennol, mewn sefyllfaoedd uniaith yn ogystal a dwyieithog gan ofyn pam a sut y maent yn cyflwyno'r gwaith fel y gwnant, * gyd-drafod gydag aelodau eraill o'r un adran y dulliau dysgu hynny sy'n seiliedig ar y defnydd o iaith wrth gyfathrebu yn eu pwnc, * elwa oddi wrth brofiad aelodau eraill sydd yn yr un adran.

Mae'r math o gymorth a ddewisir yn dibynnu ar ddymuniad personol, yn seiliedig ar werthoedd ac adnoddau'r unigolyn.

Mae'n seiliedig ar grisial o ruddem, ac fel pob laser cyflwr solid, mae'n dibynnu ar gynhyrchu poblogaeth o atomau o fewn y crisial sydd ag egni uwch na'r cyffredin.

Er mor boncyrs mae'r holl senarios dychmygol uchod yn swnio, mae nhw i gyd yn seiliedig ar gymalau go iawn yn y Mesur Terfysgaeth 2000.

Mae na gyfres deledu lwyddiannus yn seiliedig ar Wlad y Rwla.

'Roedd pryddest T. H. Parry-Williams yn seiliedig ar ei brofiad o fyw ym Mharis yn fyfyriwr.

Parry-Williams yn seiliedig ar ei brofiad o fyw ym Mharis yn fyfyriwr.

Storïau yn seiliedig ar chwedlau Cymreig traddodiadol.

O ystyried y gweithgarwch mawr oedd ar gerdded yno ar y pryd dan arweiniad Calfin a Beza ynglŷn â chyhoeddi testunau gwreiddiol y Beibl: eu cyfieithu a'u hesbonio, nid yw'n syndod iddynt hwythau ymroi i ddarparu fersiwn Saesneg diwygiedig, seiliedig ar y testunau gwreiddiol a'r ysgolheictod beiblaidd a oedd o fewn eu gafael yn Genefa.

'Roedd awdl Eifion Wyn yn seiliedig ar Gwlt y Werin.

Mae BBC Radio Cymru wedi parhau i adfywio rhaglenni, gyda chymorth strategaeth farchnata fywiog yn seiliedig ar ystod o ddigwyddiadau a chyngherddau awyr agored yr ymddengys eu bod wedi cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Nofel yn seiliedig ar fywyd a hanes Gerallt Gymro.

Fe ddywedodd - - fod hyn yn seiliedig ar "track record" y cynhyrchwyr.

Ond straeon wedi'u gosod yn y De yw'r rheini, yn seiliedig ar ei phrofiad ei hun o'r caledi.

Enghraifft o laser felly yw'r un Nd:YAG, sy'n seiliedig ar grisial o yttriwm alwminiwm garnet (YAG) - deunydd digon tebyg i saffir - gydag atomau o'r metel prin neodymiwm (Nd) yn chwarae rhan y cromiwm.

Arwydd o'r deffroad newydd oedd Streic Chwarel y Penrhyn ym Methesda ar droad y ganrif, anghydfod a oedd yn seiliedig ar ddymuniad y chwarelwyr i gael undeb effeithiol i amddiffyn eu hawliau, a gwrthwynebiad Ail Farwn y Penrhyn i'r dyhead hwnnw.

O droi at hunangofiant Kate Roberts, Y Lon Wen, cawn ddigon o dystiolaeth fod hyn yn seiliedig ar gefndir teuluol yr awdures ei hun.

Yn unol â'r dull hwn, tybiaethau dechreuol dros dro yw llawer o'r tybiaethau y mae Ffigur I yn seiliedig arnynt.

Mae'n rhaid i'r arolygiad o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol fod yn seiliedig ar wybodaeth fanwl o'r gofynion statudol, gan gynnwys:

Wythnos cyn y gêm rown i ac Ann yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug yn gwylio drama ardderchog yn seiliedig ar waith Caradog Prichard 'Un Nos Ola Leuad'.

Datblygu deunyddiau ar sail ymweliadau arsylwi ar fethodoleg yn ysgolion Cymru ac yn seiliedig ar enghreifftiau o arfer dda

Mae defnyddiau dysgu sy'n arwain athrawon i drin eu plant fel parotiaid yn seiliedig ar y meddylfryd hwn.

'Roedd holl ddelwedd Kennedy'n seiliedig ar nerth ac atyniad ieuenctid ond y gwir yw ei fod yn dioddef o afiechyd gwirioneddol ddifrifol, sef clefyd Addison.

Cyn inni symud ymlaen i archwilio pa ddiffygion sy'n perthyn i'r theori uchod, buddiol yn gyntaf fydd rhestru'r tybiaethau y mae'r model a ddisgrifir yn Ffigur I yn seiliedig arnynt:

O ran y Bwrdd, gwaith y broses o gynllunio corfforaethol fydd hynny: proses esblygol i raddau, ond proses a fydd yn seiliedig ar y strategaeth hon.

Awgryma'r pwyslais hwn ar arbenigrwydd Israel, sy'n seiliedig ar y ffaith fod Duw trwy ei hethol yn ei gosod ar wahân i'r holl genhedloedd eraill ac nad ydyw ychwaith yn berthnasol i drafodaeth ar genedligrwydd fel y cyfryw.

Llyfr am hen bethau Cymreig, yn seiliedig ar y gyfres deledu.

Mae meithrin grwpiau o'r fath felly yn bwysig - a) er mwyn cyfnewid profiadau cydymdeimladol seiliedig ar wir brofiadau.

Mae Oriel Ynys Môn hefyd yn cynnal gweithdai ar gyfer plant ac oedolion, yn seiliedig ar amryw o wahanol bynciau.

Y mae'n ddi-os i Morgan weld yn y cyfieithiad hwn gychwyn rhagorol i'r dasg o gael fersiwn Cymraeg o'r Ysgrythurau seiliedig ar yr ieithoedd gwreiddiol.