Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

seiniau

seiniau

Llenwaist ein clustiau â seiniau'r greadigaeth - sisial ffrwd ar gerrig, trymru'r môr ar draeth, trydar yr adar, clec y daran ac amrywiol gynganeddion y gwynt.

Ydi'r seiniau gwahanol yn golygu pethau gwahanol?

Cymerer y gyntaf o'r wyth soned hyfryd hyn, a sylwer, nid yn unig ar brudd-der y thema fel sy'n arfer, eithr ar y seiniau ystyrlon sy'n corffori'r teimladau hyn: Barddonais yn y cyfnos, O!

Ar ddiwedd y cwrs llwyddodd i ennill cymeradwyaeth mesuredig yr athro a rybuddiodd y dosbarth i beidio a gwangalonni pan aent i Ffrainc a chlywed y brodorion yn parablu'n mamiaith, a hwythau heb fedru deall odid ddim, gan ei bod yn angenrheidiol treulio tipyn o amser i ymgyfarwyddo a seiniau a rhuthm yr iaith fel y'i seinid yn naturiol gan siaradwyr brodorol.

A yw ei seiniau mor swynol, ei mydryddiaeth mor gampus, ei delweddau mor gain, fel nad yw ei hastrusi yn wendid difrifol iawn ynddi?

Felly, gyda parole y mae'n rhaid dechrau astudio iaith, gyda'r arwydd ieithyddol yn cynnwys (a) y signifie:y gwrthrych a ddynodir gan yr olyniad ffonolegol, a (b) y signifiant: y syniad a sylweddolir yn la parole gan seiniau, ystyron, cyfeiriadaeth.

Yna, tywyllwch dudew, unffurf y nos yn llonyddu'r llygaid yn llwyr, a'r holl fryd yn cael ei ganoli ar seiniau 'soniarus' (gair sydd ynddo'i hun yn soniarus) y gwyddau gwylltion ymhell uwchben yn rhywle.

Ysai am glywed seiniau yn gliriach a mwy treiddgar.

Yn aml y mae plentyn yn siarad mewn ffordd ddealladwy ymhell cyn iddo fod â rheolaeth lawn dros seiniau iaith ei gymuned a gall pob defnyddiwr iaith hyfedr saernio brawddegau er nad oes ganddo, o angenrheidrwydd, ddealltwriaeth lawn o "ramadeg" ffurfiol llunio brawddegau.

Mae arwyddion Saesneg i'w gweld ar bob tu a'i seiniau'n llifo drwy'r cyfryngau i bob cartref, yn wir i ystafelloedd preifat ein plant a'n hieuenctid drwy gyfrwng y dechnoleg gyfoes.