Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

selotiaeth

selotiaeth

Penderfyniad cennad y Deyrnas oedd ymwrthod â'r math o Selotiaeth a ymddiriedai yn nulliau grym materol; ond ategir gan yr hanesion am demtiad Iesu yn yr anialwch y dybiaeth iddo gael ei demtio i ennill goruchafiaeth ar y byd trwy ddefnyddio dulliau'r byd ac iddo orchfygu'r demtasiwn.

Gellid ei ystyried yn fath o fesianaeth heddychol a gwerinol a chenedlgarol ac yn un o'r dolennau cydiol rhwng Phariseaeth a Selotiaeth.

I Brandon yntau, Selotiaeth yw'r allwedd i weithgarwch Iesu ac ymwrthyd â'r ddelwedd o dangnefeddwr di-drais.

Gwell gan Cullmann beidio â sôn am Iesu fel 'Selot' ond dywed fod ei holl weinidogaeth mewn cysylltiad parhaus â Selotiaeth, mai hon oedd cefndir ei anturiaeth ac mai fel Selot y cafodd ei ddienyddio.

Am yr un rheswm ychydig a ddywedir yn yr efengylau am Selotiaeth ac am broblemau arbennig Palestina, a'r canlyniad yw fod y gair 'Galilea', yn enwedig, wedi mynd i awgrymu i laweroedd wlad o lonyddwch eidulig.