Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

setlo

setlo

Credaf fod y gwrthdynnu hwn wedi ei setlo'n llwyr ers hynny.

Mi fyddai bob dim yn hollol ddwyieithog; roedd y cyfan wedi ei setlo efo winc a one liner rhwng dau o'r bobol iawn yn un o dai bach dynion Parc Cathays.

Roedd yr ail broblem wedi ei setlo.

Wedi pasio drwy'r mannau angenrheidiol heb gael fy holi neu fy amau - mae edrych yn betrusgar mewn maes awyr yn wendid - dyma fi'n setlo ar yr awyren.

Roedd yr hanner cynta yn eitha cyflym ond fe ddechreuais i setlo mewn wedyn.

Deuai dyddiau crablyd setlo i lawr a byw yn ddiflas lwydaidd i'w ran yn ddigon buan.

Mae arna i ofn gynddeiriog iddi hi setlo acw am 'i hoes." Tra oedd fy nghyfaill Williams yn gorffen y bara-llaeth, ac wedyn yn ysmygu wrth y tân, ceisiasom feddwl am ryw gynllun i yrru Anti Lw ar symud.

Duwcs mi fyddwch mor hapus â dwn i ddim be, unwaith y byddwch chi wedi setlo.

"Dyna hyn'na wedi ei setlo," meddai Alun.

O'm cwmpas, y tu mewn i'r tren, mae cerdded mawr yn digwydd, er bod mater y gwelyau bellach wedi ei setlo.

"Dyna bopeth wedi ei setlo Alun," meddai Nia'n hapus gan godi a mynd i eistedd ar ei lin.

Ar yr union eiliad honno pwy ddaeth heibio iddynt ond un o r stiwardiaid a gofyn i'r dyn: "Be sy'n bod ar y ceffyl 'ma gin ti?" A'r llall yn ei ateb ar drawiad megis: "Newydd gal golwg ar 'y mhapur setlo i mae o!" Cyflog digon gwael a gai y rhai a fyddai'n canlyn ceffyl yn aml, a'r papur setlo' oedd yn dangos maint hwnnw ar ddiwedd pob mis o weithio.

Mae e wedi setlo lawr a mae wedi dangos ei ddoniau ar y cae pêl-droed gyda Wimbledon ar ôl y siom o fethu mynd i Rangers.

Ond mae rhan helaeth ohonynt yn setlo yn yr aberoedd i dreulio'r Gaeaf yn y wlad hon.

Gwnaed hynny cyn setlo'n derfynol beth fyddai galluoedd y Senedd arfaethedig.

Ond byddai'r trip i Batagonia yn ei setlo a wnâi hi ddim drwg iddo yntau gadw o'r Genedlaethol am eleni.

Pan ddes i 'nôl i Gymru o'n i'n barod i setlo lawr".

Ei hamcan oedd ceisio datrys y problemau a wynebai'r pentref, ac yn fwy na dim, ceisio ei gwneud yn fwy deniadol ac ymarferol i bobl if ainc fod eisiau aros a setlo yn yr ardal.

Yn dal heb ei setlo gyda ffasiynau mewn trin troseddwyr yn pendilio'n gyson.

Roedd ar fin setlo i gysgu yn fodlon braf pan glywodd leisiau dau lais dieithr yn siarad yn y tywyllwch.

Fel y ciliai'r tonnau ymgodai'r creigiau'n ymgodai'r creigiau'n dduon i wahodd yr adar arnynt, piod y mor yn gwichian yn stwrllyd ar bilidowcars mud, llonydd, anodd iawn eu gweld heblaw pan drwsient eu plu neu ysgwyd adenydd cyn setlo drachefn ar eu harsyllfeydd.

Galwyd milwyr i setlo'r helynt a gododd ar achlysur praw arweinwyr y gweithwyr, a saethwyd pedwar o'r dorf a ymgynullasai - dau ddyn a dwy wraig.

'Roedd yn benderfynol o setlo'r hen foi mawr unwaith ac am byth.

Wyt ti'n meddwl lici di yma?" "Newydd gyrraedd ydw i," medda fi, "dydw i ddim wedi cael amsar i edrych o 'nghwmpas eto." A dyma fo'n dechra rhestru ansawdd y bwyd a'r bendithion, ac yn fy sicrhau i, unwaith y baswn i'n setlo, mai yn o y mynnwn i fod.

Dyna setlo'i thynged.

Mae'n ddyletswydd arnaf i'w helpu o ar 'i yrfa fel artist..." "Mae gyrfa Aled wedi 'i setlo.

Yna, pawb yn setlo i lawr i wrando.

Fynna fo ddim ond i mi brynu pacad, ac mi fuo raid i mi setlo am hynny, er fy mod i'n amau'u bod nhw'n rhy fawr i fy mhib i.

A dywed sylwebyddion y gallai'r mater gael ei setlo yn y llys ucha, Y Llys Goruchaf yn Washington.

petrol budr, meddai rhywun wrtho ; yn iawn wedi i 'r llychyn baw setlo i lawr - gyda lwc !

Felly gawn ni setlo un neu ddau o bwyntiau.

Ac roedd wedi gwneud hynny, gan adael ei ôl, nid yn unig ar y cerrig beddau yn y fynwent a oedd wedi gwyro i'r dde neu i'r aswy wrth i'r tir o danynt symud a setlo, ond hefyd ar waliau cedyrn y capel o briddfeini a ddaeth o dy'r ffan ar ben y gwaith, 'slawer dydd.

Setlo lawr i ffonio pobol.

'O'r gore, 'te, dyna hynna wedi'i setlo!' meddai Martha Arabela'n fywiog.

Ond, ym Manceinion a Llundain mae'r mwyafrif a ddaeth i Brydain wedi setlo.

Methu setlo i wneud dim.