Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgarmes

sgarmes

Sylwodd Alun ar y graith biws hyll oedd yn rhedeg ar hyd un ochr i'w wyneb, lle'r oedd cyllell wedi rhwygo'r croen mewn sgarmes.

'Roedd Brian Williams yn amlwg yn y sgarmes fel arfer, a chafwyd ymroddiad a brwdfrydedd gant y cant gan y bachwr o Lyn Nedd, Andrew Thomas.

Tra 'roeddwn ynghanol y sgarmes efo'r gwyniedyn mawr yn y Pwll Defaid, 'roedd Jim wedi mynd i brofedigaethau mawr ym Mhwll y Bont.

Gall sgarmes sydd wedi ei stopio, ail-gychwyn - mor belled a bod hynny'n digwydd o fewn pump eiliad.

Rŵan wrth imi edrych yn ôl fel hyn, ni allaf lai nag ystyried y sgarmes gi%aidd yna fel trobwynt mawr yn fy adnabyddiaeth o Talfan.

Roedd y rhain yn llwgu, a phan geisiodd Mrs Chalker ddosbarthu rhyw ddwsin o Milky Ways, fe aeth yn sgarmes anwar.

Agorodd pob un o glwyfau'r hen sgarmes, er eu bod wedi gwella mor llwyr ddeugain mlynedd yn ôl.

Ond gallwn fod yn siwr fod rhywbeth wedi digwydd, bod sgarmes wedi cymryd lle a bod buddugoliaeth annisgwyl wedi ei hennill.