Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgert

sgert

Decllath i ffwrdd, rwy'n gweld bachgen bach â choesau cam yn cydio'n sownd wrth sgert ei fam.

Camodd Carol oddi wrth y ffôn, ond daliodd i syllu arno an anwybyddu cwestiynau parhaus Owain a'r ffordd yr oedd Guto'n tynnu godre ei sgert.

O'r diwedd, cafodd hyd i'r hyn y chwiliai amdano a rhoddodd ef ym mhoced ei sgert yn llechwraidd.

Yr oedd yna lun plentyn mewn sgert neu drywsus pen glin a sana beic a thamishantar yn gorwedd ar ei fol ar lawr yn darllen ar gornel isaf cas glas y gyfrol a adwaenwn i o Nedw, Tegla Davies.

Nid oedd fy fferau i yn ymwthio dros ymylon fy esgidiau bach i fel rhai Emli Preis, na fy nwyfron i'n hongian mor llac, na'm bol i mor dynn chwaith o dan fy sgert i.

A thra mai sgert fer a nosweithiau hir yw natur Sheryl, pell iawn yw hyn o natur bywyd Lisa Victoria, sy'n wreiddiol o'r Rhondda ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Roedd hi'n anodd dychmygu'r hen wraig honno a edrychai mor Gymreig a thraddodiadol â hen fenyw fach Cydweli, gyda'r siôl frethyn coch, a'r sgert frasddu, yr hen wraig â'i gwar esgyrnog yn grwm wrth iddi blygu'n dawel dros ei thro%ell, a'i phen yn frith dan y cap gwau, anodd oedd dychmygu honno'n deisyfu dyn!

Gydag un ohonynt yn ei breichiau, un arall mewn siôl ar ei chefn, a'r llall yn gafael wrth odre ei sgert aeth i'w lluchio'i hun i'r gamlas oedd yng nghefn un o'r strydoedd.

Ac am beth mor ddiniwed â cherdded 'o fewn hyd chwibaniad i safle adeiladu yn ei sgert mini' yr enillodd Miss S. Pollak, hithau, o Eton Villas, London NWS ei CDM neu, Cadbury Dairy Milk.

Roedd hi'n ôl yn y bwthyn yn Nhraeth Coch, yn ei ffrog gingham fioled a gwyn newydd, y ffrog a'r gwddw isel a'r belt llydan metalig o gwmpas y wasg a'r fflowns yn y sgert yn dod dros y pengliniau.

sesiwn acwstig i Gang Bangor. Cân am y ferch ‘ma sy'n dipyn o bishyn yn gwisgo "high heels, suspenders a sgert".

Roeddan ni'n medru codi'i sgert a'i phais i fyny mor handi, a'u rhoi nhw'n sownd wrth 'i gwasg, ac mi oedd hi'n medru dod o hyd i'r cocos mor gyflym â gwylan fôr, hefo'r hen lwy bach bren 'na Mi gawson ni andros o hwyl yn hel, er na ddaru ni ddim cael gymaint â hi.

Dyma Jini yn mynd yn ddwfn i boced ei sgert ac yn tynnu allan lyfr bach, bach - y llyfr lleiaf a welais i erioed.