Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgi

sgi

Collwyd ugeiniau o ddawnsfeydd yn sgi%l y ddau ddiwygiad crefyddol ar droad y ganrif.

Wrth i'r grant gynyddu dros y blynyddoedd diweddar, mae nifer o broblemau wedi codi yn sgîl y dulliau hyn o ariannu.

Ar gefn ceffyl ai i'r dre yn y gaeaf i nol neges gyda "maletas" wrth ei sgîl gan mae dyna'r unig ffordd bosibl i fynd.

Oherwydd gwelai Rhigyfarch y Normaniaid yn ail-lunio'r clas yn Llanddewi Brefi; ac yn wir nid oes gennym dystiolaeth bendant i'r clas oroesi'r cyfnewidiadau a ddaeth yn eu sgîl.

Mae ei hangen arno i fynegi ei anghenion a'i ddyheadau, ei brofiadau, ei deimladau a'i freuddwydion ac yn sgîl hynny fe ddaw yn gyfrwng i rannu'r meddyliau hynny.

Profodd y pum niwrnod canlynol yn llawn difyrrwch hyd yr ymylon, a hwythau'n mwynhau nofio, sgi%o dros y dŵr, hwylio, chwarae tennis a marchogaeth ceffylau.

Ond buont yn ein tŷ ni ryw dro, a gadawsant rywbeth ar eu hôl, ac y mae darllen yr hyn a sgrifenasant yn eu dwyn i gof - pwy, sut, o ba le, yr oeddynt, ac yn sgîl hynny lu o bethau eraill.

Yn sgîl hyn datblygodd dealltwriaeth dawel rhyngof i a Thalfan.

A chan mor gryf yw'r patrwm cwrteisi a ddatblygodd yn sgîl y gwaharddiad ar ddefnyddio'r Gymraeg, nid ydynt yn eu gweld eu hunain yn ymddwyn yn anghwrtais.

Felly, yn ogystal â bod yn un o sgîl-gynhyrchion pwysicaf pob diwylliant, y mae iaith hefyd yn feithrinfa i ddiwylliant ac yn gyfrwng i sicrhau ei barhad.

Doedd y dyn yn ei gaban ddim yn gallu dod i'm helpu oherwydd bod fy nwy sgi wedi troi ar draws llwybr y lifft ac yn gorffwys ar ei ddrws fel nad agorai hwnnw!

A rhinwedd mawr ginseng yw ei fod yn cyflawni hyn heb gynhyrchu sgîleffeithiau annymunol fel y gwna symbylyddion arferol y Gorllewin megis caffîn ac amphetamine.

Yn ei sgîl, dechreuodd yntau chwerthin.

Yn sgîl y digwyddiadau crefyddol y daeth yr alwad am addysg fydol, a thra' roedd sylwedd un yn Gymraeg, roedd y llall yn hollol Seisnig.

Mae'n debyg fod costau petrol a'r ofnau yn sgîl llosgi rhai tai haf wedi helpu ymhellach yn y cyfeiriad hwn.

Ond o'r berw a godai yn sgîl clywed mor hwyr y dydd am ddigwyddiad o'r fath, y tebygrwydd yw y byddai cyflwynydd y rhaglen yn ymddangos mor ddi-gynnwrf ag erioed wrth adrodd holl fanylion y stori o fewn yr awr.

Yn sgîl hyn, ffurfiwyd cymdeithas newydd i gymryd yr awenau oddi ary 'Gymdeithas Rieni' ac i gario ei hymdrechion ymlaen.

Enghraifft nodedig o'r cychwyn hwn yw'r rhwydwaith papurau bro sy'n britho Cymru heddiw ac sy'n cynnal yn eu sgîl weithgareddau niferus ac amrywiol a phob un ohonynt yn hybu Cymreictod.

Maent yn croesawu'r datblygiad hwn a chredant na all hyn ond gwella yn sgîl y gwaith sydd ar y gweill erbyn hyn i ddatblygu cynlluniau tymor hir PDAG".

Bydd yr hyder a ddaw yn sgîl y credu hwnnw yn rhoi hyder iddo arbrofi a mentro gyda iaith.

Yng nghanol mwynder Maldwyn, mae pentrefwyr Llanrhaeadr ym-Mochnantyn mwynhau'r sylw sydd wedi dod i'r ardal yn sgîl The Englishman Who Went up a Hill and Came Down a Mountain, ffilm newydd Hugh Grant a ddaeth yn seren dros nos ar ôl Four Weddings and a Funeral.

Gwnaed yr adroddiad yn sgîl beirniadaeth Pwyllgor Seneddol ar Faterion Cymreig o safon dyluniad tai newydd yng nghefn gwlad Cymru gan Gwmni Chapman Warren ar gyfer y Cyngor.

Canlyniad mwy arwyddocaol i'r adroddiad pwysig hwn oedd y symudiad a ddaeth yn ei sgîl tuag at gymhathu plant ag anghenion addysgol arbennig i brif-ffrwd y gyfundrefn addysg.

Anaml y bydd disgyblion yn ysgrifennu; gall eu gwaith fod yn gyfyngedig ei amrediad, heb ei drefnu'n dda, yn anghyflawn, yn anniben neu'n fle/ r yn sgîl sillafu gwael a gwallau gramadeg; ychydig a wyddant am ddiben neu gynulleidfa a chyfyngedig yw eu gallu i wella ar eu hymdrechion cyntaf.

Yn sgîl y dadeni hwnnw daeth Dyneiddiaeth i fri.

Dibynnai'r mwyafrif yn y pen draw ar y trefnydd iaith ac ar y cymorth ysgrifenyddol a ddôi yn ei sgîl.

Ond yn lle'r gair 'glân' daeth tisiad anferth o'i thrwyn a chawod yn ei sgîl, nes bod Mam yn bagio a'i chefn at y wal.

Er mwyn cael darlun cyflawn rhaid ystyried hefyd cyfraniad y canolfannau, a'r incwm a ddaw yn sgîl gwerthu'r adnoddau.

Dylid nodi bod y Prifathro a'r Brifathrawes wedi cynnig sylwadau penodol ar ddatblygu cwricwlwm yr ysgol gynradd, a bod ysgol un ohonynt wedi derbyn gwobr Brydeinig yn sgîl blaengarwch cwricwlwm yr ysgol.

Ond o weithio mewn cyd-destun ag iddo ymrwymiad Ewropeaidd cynyddol, a yw seiliau'r Gymraeg (yn addysgol, yn ddiwylliannol, yn ieithyddol, yn gymdeithasol) yn ddigon cryf i oresgyn y gofynion newydd a ddaw yn sgîl hyn?

At hynny, roedd cyfle i fwynhau awyrgylch Krako/ w heb fod yno filoedd ar filoedd o dwristiaid, ac i gerdded mynyddoedd y Tatra heb fod sgi%wyr fel morgrug hyd y lle.

Fe ddichon ei fod ef, fel William Salesbury o'i flaen, wedi ymddiddori yn y llenyddiaeth grefyddol Gymraeg (cyfieithiadau gan mwyaf o'r Lladin) a gafwyd yn sgîl deffroad y drydedd ganrif ar ddeg (gw.

Yn sgîl y Ddeddf Diwygio Addysg, arfaethir cynnig i ddisgyblion ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf brofiadau cyfrwng Cymraeg, fel y bo modd iddynt ennill hyfedredd lawnach nag erioed.

Yn sgîl y trafodaethau a ddigwyddodd rhwng Y Swyddfa Gymreig, PDAG a'r asiantau cynhyrchu cenedlaethol yn ystod y ddwy flynedd aeth heibio, gofynnwyd i PDAG geisio cysoni'r system o gyflenwi adnoddau er mwyn sicrhau fod grantiau cyhoeddi deunyddiau addysgiadol yn cael eu dyrannu ar seiliau tebyg i bawb ac yn gyson â threfniadaeth y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Yr ail elfen yw cyfraniad y mewnfudwyr a'r newydd- ddyfodiaid a ddaeth i'r cylch yn sgîl diwydiannu'r ardal, gwŷr megis Gomer ab Tegid a D.

Nes ymlaen, cafodd fynd i aros i le Richard Williams ar lechwedd Mynydd Llwyd i ddod a'r eneth fach wrth ei sgîl ar gefn ceffyl i'r ysgol fach to gwellt o dan ofal yr athro Owen Williams o Gymru.

Ni ddaeth yr un deigryn (yn fy ngþydd i, beth bynnag) yn sgîl ei hadwaith call i'r penderfyniad þ er fy mod i yn wylo cawod o ddagrau y tu mewn.

Yn sgîl y drafodaeth ynglŷn â Changen Llanllechid, mynegodd cynrychiolwyr o Gangen Bontnewydd eu bod hwythau wedi methu ag ethol swyddogion yn eu cyfarfod cyffredinol.

Y gore y medraf i ei wneud y bore yma fydd sylwi ar rai o nodweddion y datblygiadau a enwais, ac yn sgîl hynny, cynnig rhai sylwadau am ragolygon Cymru ar drothwy'r ganrif newydd.

Daeth cymydog i'r drws ac meddai â'i anadl yn fyr o frysio yma, "Mae dy adwy isaf yn agored cofia ac mae'r defaid oddi yma i Pen Llyn acw ac yn y ffarm arall." Gellwch ddychmygu'r llifeiriant geiriau a ddaeth yn sgîl y sylw, "Pwy sy'n gyfrifol am hyn tybed?" Yn sydyn clywem sŵn traed yn llusgo am y t^y.

Yn ei sgîl tyfodd difyrrwch yn ddiwydiant enfawr.

Dylech nodi fod y Pwyllgor wedi cytuno ar yr ymateb hwn yn sgîl darllen tair dogfen arall yn ogystal, sef

Yna, yn sgîl cyhoeddi adroddiad interim Ieithoedd Modern pwysleisiwyd yr angen i gynnwys y Gymraeg yn y rhestr o ieithoedd sy'n bosibl eu dysgu yn Lloegr.

Daeth penllanw'r gwrthwynebiad yn sgîl y Diwygiadau Crefyddol o'r ddeunawfed ganrif ymlaen.

Cyhoeddwyd y papur ymgynghorol yn sgîl cwynion bod y system gynllunio yn aneffeithiol er rheoli mân newidiadau mewn ardaloedd cadwraeth.

Dau fag yn unol oedd "maletas" wedi eu gwau gan yr Indiad ac yn cael eu gosod ar gefn y ceffyl wrth sgîl y person.

Y diwrnod hwnnw, roedd sebon ar gael, ac ychydig o bast dannedd, ac, yn un gornel, roedd rhesi trist o offer sgi%o, heb fawr neb yn edrych arnyn nhw, heb sôn am feddwl prynu.

Yn sgîl y celfi cyfarwydd hynny yn ei gartref - y mangyl, yr harmoniym, bwrdd y gegin ac amryw bethau eraill - deuai rhyw atgof neu'i gilydd am y gorffennol i'w feddwl, a thrwy gydol y cynhyrchiad fe'n tywyswyd yn ôl ac ymlaen mewn amser wrth i'r eitemau hyn roi cyfle iddo ail-fyw profiadau ei blentyndod a'i ieuenctid - profiadau cyffredin ac oesol y gall pob un ohonom uniaethu â nhw ond a gaiff eu gwisgo yng nghyfnod y chwareli gan T.

Beirniadol oedd Howel Harris o'r canu ond llwyr orchfygwyd ei ragfarn wrth weld yr effeithiau daionus a ddeuai yn ei sgîl.