Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgori

sgori

'Mae bob amser yn neis sgorio cais, ond 'sdim ots da fi pwy sy'n sgori'r ceisiau.

Fe groesodd y crysau gwynion linell Cross Keys wyth o weithiau gyda'r wythwr Lee Jones yn sgori ddwywaith.

'Diffyg creu yw'r broblem fwya ond ro'dd hi'n dda gweld ni'n sgori ambell gais ddydd Sadwrn dwetha.

Llanelli - mae eisie iddyn nhw sgori pwyntiau a cheisiau.

Am resyme sy ddim ond yn wybyddus i ddewiswyr Caerdydd, gadawyd y cryfa o'u rheng flaen, Mike Knill, allan o'r tîm; felly hefyd eu ciciwr gore, y Cymro o Lambed, John Davies, a oedd eisoes wedi torri'r record am sgori pwyntie i'r Clwb.

Mae Newell yn 30 heb fod mâs, Steve James wedi sgori 8, ac fe ddylse Morgannwg ennill yn ddigon rhwydd heddiw.

Ond tra oedd Llanelli yn dal yn y gêm wrth flaene eu bysedd, cafodd y cwbwl ei wyrdroi gan un symudiad cryf gan y blaenwyr, a Tommy David yn arddangos ei fedr a'i gryfder wrth garlamu dros linell gais Castell Nedd i sgori pedwar pwynt.

Ond mae'r menter a'r weledigaeth 'da nhw nawr i chwarae rygbi cyflawn a maen nhw'n gallu ymosod a sgori o unrhyw le ar y cae.

'O'n i'n gwbod bydde hi'n agos iawn yn enwedig ar ôl iddyn nhw sgori cais wedi'r egwyl - ond cic yn y penôl geson ni,' meddai.

Fe wrthsafon nhw adfywiad Penybont a mynd lawr i ben arall y cae i sgori ac arwain 13 - 5.