Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgrechiodd

sgrechiodd

`Mae'r t ar dân,' sgrechiodd.

Beth yw'r ots?' sgrechiodd y gath.

"Watsia!" sgrechiodd wrth iddynt ddod o fewn trwch blewyn i fynd i mewn i'r car o'u blaen.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Sgrechiodd Meic Jervis mewn ofn wrth i'r belen ar ben y mes ruo i lawr tuag ato.

Yna sgrechiodd gan ofn wrth weld bod llew yn gwarchod y tŷ...

Teimlodd law yn gafael yn ei ysgwydd a sgrechiodd.