Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgrialu

sgrialu

Synnodd y pentrefwyr i weld ci ar ei ben ei hun yn sgrialu trwy'r pentref ac yn gafael yn nhrowsusau'r dynion.

Roedd cilwyntoedd main yn sgrialu trwy'r gell, a hiraethai hyd yn oed am ei gell arferol.

Wrth iddo sgrialu ymaith, ciliai'r iaith Gymraeg i'w ganlyn.

Nid ymatebodd Gareth, ac wedi taflu golwg sydyn ato, trawodd Adam ef unwaith eto cyn ymbalfalu am y llyw wrth i'r car sgrialu o amgylch cornel siarp yn y ffordd.

Dim ond bryd hynny y sylwodd y pedwar fod un o'r dynion ar ol ac yn sgrialu ar hyd y rheiliau rhydlyd i dywyllwch yr ogof; roed yn cario rhyw fath o sach ar ei gefn.

Crynhôdd dafnau o chwys fel gwlith ar ei dalcen Symudodd yn sydyn yn ei gadair a rhoddodd hergwd i'r gath nes ei bod yn sgrialu ar hyd y llawr cerrig.

Wrth i Darren gyrraedd rhuthrodd y car oddi yno gyda'i deiars yn sgrialu.

Gallem ei glywed yn chwibanu drwy'r gwifrau, yn dyrnu'r ffenestri, ac yn sgrialu'n llithrig ar hyd y deciau heibio talcenni'r cabanau.