Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgrin

sgrin

Petai rhywrai'n digwydd gweld y ffilm hon ar ei hanner, a'r olygfa o'r gweithlu ym mol buwch y sinema, oll yn eu lifrai gwynion a'u helmedau lampiog a'u lanternau yn eu dwylo, gellid maddau iddynt am dybio mai glowyr oedd ar y sgrin.

Daeth y ditectif preifat Leo Beckett (wedii chwarae gan Neil Pearson) i'r sgrîn yn Dirty Work.

Byddai'n ddigon hawdd llunio beriniadaeth weddol arwynebol ar y ffilm hon a'i gadael hi ar hynny: miwsig nostalgaidd Michael Storey; actio gafaelgar Iola Gregory a Dafydd Hywel; adeiledd carcus-dynn y ffilm a delweddau canolog y madarch a'r rhosod; y garreg fedd glyfar ar ddiwedd y ffilm ar ddelw sgrin sinema a'r geiriau THE END yn cloi'r llun yn daclus thematig...

Yr oedd hi'n dechrau nosi nawr ac ni allent weld ond ffurf y tŷ mawr rhyngddynt â'r awyr, rhiw silŵet llwyd ar "sgrin" ruddgoch y machlud tua'r de-orllewin.

Swniwch y llythrennau a'r geiriau a welwch ar y sgrîn i'r plant a beth am gyfrif yn uchel? Anogwch a chanmolwch y plant yn gyson.

Ond yn ôl un o gyfarwyddwyr Hollywood cyhyrau o flawd oedd gan Reeves er gwaethaf ei orchestion ar y sgrin.

Gall y plant chwarae'r gêmau ar eu pennau'u hunain ond bydd angen i oedolion/athrawon fod gerllaw i helpu darllen y wybodaeth ar y sgrin a darllen y stori.

Bydd gwyrth dechnolegol newydd sbon i'w gweld yma yn fuan, felly cadwch olwg ar y sgrîn.

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Nid yw baby a kid yng ngeirfa Paul Greta, Lisabeth, na Harri; mae golygfeydd y sgrin fawr yn o bell o'u meddyliau hwy.

Bu buddsoddiad sylweddol mewn datblygu drama, a sefydlwyd y posibilrwydd o ddenu comisiynau teledu, er y bydd yn ddiweddarach ym 1999 cyn i hyn ddechrau dwyn ffrwyth ar y sgrîn.

e-gardiau bendigedig BBC Cymru'r Byd yn syth i'w sgrîn.

Mae system meiciau cyswllt newydd a chamerâu sgrîn lydan wedi eu gosod yn stiwdio C1.

Sgrîn - cefnogir asiantaeth cyfryngau Cymru, sy'n hyrwyddo'r diwylliant a'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru gan ddarlledwyr, y WDA, TAC ac eraill.

Roedd yntau ynghudd tu ol i'w sgrin papur newydd.

Daeth y ditectif preifat Leo Beckett (wedi'i chwarae gan Neil Pearson) i'r sgrîn yn Dirty Work. Roedd y gyfres dditectif hon a gynhyrchwyd ar gyfer BBC One ac a leolwyd yng Nghaerdydd yn portreadu'r ddinas mewn ffordd gyfoes realistig yn ogystal â chyflwyno golwg newydd ar hen rôl y ditectif preifat.

Fyddai neb wedi dychmygu'r gallu a'r grym a'r perygl oedd y tu ol i'r sgrin a'r tu mewn i'r bocs pren caboledig, melfedaidd.

O wario arian mawr, fe ellir cael llwyfan, set, sustem sain neu sgrin sy'n dangos hynny, ond yr un yw'r patrwm yn y bon.

Defnyddiwch y dolenni ar hyd waelod eich sgrîn i fynd at y wybodaeth diweddaraf am ymgyrchoedd y Gymdeithas, a sut i ymuno â nhw...

Hefyd mae is-deitlau Saesneg ar y sgrîn ar rifyn omnibws Pobol y Cwm ar ddydd Sul.

Gallwn glywed y doctor yn stwna y tu ôl i'w sgrin a'i arfau'n tincial wrth iddo ddethol o'i ffiolau a'i chwistrelli a sisial yn ddistaw wrtho'i hunan.

Dangosodd cipolwg sydyn ar y spido eu bod yn gwneud dros saithdeg; drwy'r sgrin flaen, gwelai Gareth y goleuadau blaen yn dawnsio oddi ar lwyni a ffensiau.

Y mae sgrin yng nghefn eich llygad o'r enw y retina.

Ond dyw hi ddim wedi sarnu'r llyfrau fel sy'n gallu digwydd weithiau pan fydd lluniau ar y sgrîn yn cymryd lle'r geiriau ar y dudalen.

Parhaodd y thema ddrama yn Unwaith Yn Ormod, drama gyntaf y bardd, beirniad llenyddol ac awdur sgrîn Alan Llwyd ar gyfer y radio ai stori dditectif gyntaf - dau brofiad newydd iddo.

Ym myd chwaraeon, cafwyd egni ar y sgrîn a newyddiaduraeth o'r radd flaenaf gan Geoff Collins, Laura Watts a Delyth Morgan, gan gynnwys cyfweliadau gyda Graham Henry a Vinnie Jones a darllediadau estynedig o gêmau byw na ellid eu cynnwys ar y sianeli analog.

Rhaid canmol y defnydd o sgrîn fawr yn ystod y golygfeydd cynnar ar olaf ond un.

Pan laniodd yr awyren mewn cae ar gyrion Mogadishu, a phan agorodd ei safn fecanyddol yn araf er mwyn i'r gwaith o ddadlwytho sachau bwyd a newyddiadurwyr ddechrau cyn y saethu, roedd yr olygfa yn un yr oeddwn innau wedi'i gweld ar sgrin y teledu.

Tu mewn i'r Rex aeth pethau rhwg y cŵn a'r brain: plant ifainc yn cadw reiat; hen ferched yn lladd amser yn y galeri; y B movie du a gwyn ar y sgrin yn torri.

Wedi gofyn imi dynnu fy nghrys, diflannodd y doctor y tu ôl i sgrin ym mhen pella'r ystafell fawr.

Bryd hynny, mae'n rhaid cofio bod yna swyddogaeth i sut rydych chi'n ffilmio neu beth ydych chi'n ffilmio, gan obeithio eich bod yn dod â'r teimladau amlwg sydd ynoch chi i'r sgrin.

Mae delwedd o'r hyn a welwch yn ymffurfio ar y sgrin fechan hon.

Yr oedd yn gwneud perffaith synnwyr i'r dyn cydnerth ai gyhyraun sgleinion frown ar sgrins sinemau fod yn Mr World - ond yn gwbwl afresymol i Erciwl y sgrin fod yn Mr Universe hefyd.

Ar ôl codi llaw ar bawb maen nhw'n diflannu ac fe'u gwelwn ar sgrîn mawr yn cael eu tywys o gwmpas yr adeilad.