Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgrol

sgrol

Ar ôl gadael pencadlys Vodafone bydd gan y cerddwyr daith o 60 milltir o'u blaenau i Lundain lle y cyflwynir sgrol i swyddfa Paul Murphy sy'n galw ar i'r Senedd ildio'r hawl i'r Cynulliad Cenedlaethol gael deddfu ar ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Cyhoeddir nad oes neb yn deilwng i dorri'r seliau ac i ddatgelu cyfrinachau'r sgrol ond Iesu Grist a ddisgrifir ar un gwynt yn Llew o lwyth Jwda ac ar y llall yn Oen fel un wedi ei ladd.

Bydd y cerddwyr sy'n dibynnu ar y nerth yn eu traed yn cario sgrol sy'n galw am Ddeddf Iaith Newydd i'r unfed ganrif ar hugain.

Yno fe gyflwynir llythyr ar ffurff sgrol i Paul Murphy, Ysgrifennydd Cymru.

Caiff y sgrol ei chyflwyno i swyddfa'r Ysgrifennydd Gwladol - Paul Murphy yn Llundain am 3.30pm dydd Gwener.