Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgubo

sgubo

Fel yng ngweddill Ewrop, roedd teimlad cenedlaethol wedi sgubo trwy'r wlad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddechreuodd adfywiad llenyddol a chelfyddydol galedu yn symudiadau gwleidyddol.

Chân nhw ddim ein sgubo ni o'r neilltu a dwyn ein holl eiddo ni.

Cymrodd fy het gan ei 'sgubo i fyny yn ddeheuig.

Croeso i'r Hengwrt, foneddiges...a chroeso'n ôl i fywyd" A moes-ymgrymodd Hywel Vaughan gan ffugio sgubo'r llawr â het ddychmygol.

Un dydd, hanner ffordd trwy'r ymweliad, sefyll am ychydig funudau ar y briffordd lydan sydd, yn y pen draw, yn sgubo trwy ogledd y cyfandir o Berlin i Helsinki.

Gyda'r llwch holl-bresennol roedd yn rhaid iddo sgubo a dwsto sawl gwaith y dydd i gadw'i gaban mor lân â hyn.

'A glychu dy big dy hun yr un pryd?' 'Twt, 'neith cropar o rwbath cynnas ddrwg yn y byd i ddyn nac anifal, yn enwedig pan fydd y gwynt yn union o Borth Neigwl, fel y mae o heddiw 'ma.' Wedi sgubo sylw yr hwsmon o'r neilltu fel hyn aeth Pyrs ymlaen â'r stori.

Roedd y rhain wedi bod mor deyrngar i'r llw a dyngwyd i Hipocrates nes eu bod, y rhan fwyaf ohonynt, yn medru rhoi llawer mwy o sylw i anghenion y rhai cyfoethog oedd yn llawer mwy tebyg o ddioddef o ddiffyg traul na'r dica/ u oedd yn sgubo fel pla drwy rengoedd y rhai na fedrai fforddio bwyta digon, i bryderu ynghylch diffyg traul.

Chwech oed oedd Maggie pan aeth yr afon drosodd gan 'sgubo ymaith pob dim ar wyneb y dyffryn.