Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

shakespeare

shakespeare

Roedd rhywbeth amdano a fyddai'n edrych yn gyfforddus yn bodio trwy lyfrau Shakespeare mewn llyfrgell, neu'n plygu yn ei gwman uwch Wordsworth.

Mae'n dal i allu dyfynnu Shakespeare ar ei gof.

Adnabyddiaeth lwyr o ddramâu Groeg yn unig oedd gan Aristotlys pan ymdriniodd â nodweddion drama drasig Efo 'ychydig o Ladin a llai o Roeg' treisiodd Shakespeare hwy i gyd bron.

Cefais set gyflawn o Woods Aethene Oxoniensis a'r gyfres orau o lyfrau ar Shakespeare mewn rhwymiad godidog.

Dymar actor a ddaeth i enwogrwydd cyffredinol yn sgîl y gyfres deledu Saesneg, Hornblower, ac a ddywedodd mai ei ddau uchelgais yw chwarae Romeo yn nrama Shakespeare a bod yn arwr mewn ffilm gowbois.

Clywsom Waldo'n son am weledigaeth Shakespeare a Dante o'r by dac yn ei hamddiffyn drwy ofyn ...

Yn unol â hyn cawn yr Athro W J Gruffydd yn maentumio fod tri chyfnod yn hanes barddoniaeth pob gwlad, sef, i ddechrau, gyfnod barddoniaeth lwythol, yn ail, cyfnod ymledu pryd y derbynnir dylanwadau allanol, ac yn drydydd, cyfnod ymdeimlad cenedlaethol dwys, megis cyfnod Shakespeare yn Lloegr a chyfnod Goethe yn yr Almaen.

Ymgais oedd Keats and Shakespeare i ymhelaethu ar y daliadau hyn am 'life- adjustment' a'u cymhwyso at waith un bardd, Keats.

Ni wyddai Shakespeare, Milton, a Dafydd ap Gwilym wedi eu rowlio i'w gilydd ddim byd amdani hi, yn y mater o ddychymyg, o'u cymharu ag estate agent.

Os yw Shakespeare o'r pwys mwyaf i blentyn o Sais, a yw Goronwy Owen yn llai pwysig i Gymro?

Rhaid deall Keats and Shakespeare yn erbyn cefndir ehangach y ddadl lenyddol-grefyddol rhwng Murry a T.

Nid oeddwn yn deall hyn o gwbl; a dweud y gwir, dyma'r tro cyntaf imi weld yr enw 'Glendower' er i William Shakespeare fedyddio'r uchelwr gwrol o Lyndyfrdwy felly.

Hwn yw byd Shakespeare, Molie\re, Ellis Wynne, byd dynion a'u hamherffeithrwydd a'u drama a'u stori.

Y mae'r llywodraeth yn gresynu nad yw plant yn cael eu gwreiddio'n effeithiol yn Shakespeare a Milton, Keats a Tennyson, Jane Austen a Dickens.

Er mor wahanol eu moddau yw dramâu Groeg, Dante, Shakespeare, y Gododdin, y Mabinogi, Rhys Lewis, Dafydd ap Gwilym, Rilke, Dostoevsky, y rhyfeddod mawr yw y gellir dadlau eu bod i gyd yn arwyddocaol am yr un rhesymau, fod yn gyffredin iddynt i gyd yr elfennau a'r nodweddion sy'n cyffroi dyn yn deimladol ac ymenyddiol.

Teg yw cydnabod fod Shakespeare mewn dramâu eraill yn ddigon ymwybodol o fodolaeth Cymru a'r Alban - fel y gweddai i fardd yn canu yn y cydiad rhwng Oes y Tuduriaid ac Oes y Stiwartiaid!

Nid yw o bwys ganddynt a wyddom ddim am Dafydd ap Gwilym neu Williams Pantycelyn ond y mae o bwys ganddynt ein bod yn ein gweld ein hunain fel plant diwylliannol Shakespeare a Dickens.

Heb sôn bod Cernyweg yn dal yn iaith fyw yng Nghernyw a Manaweg ar Ynys Manaw yn amser Shakespeare.

Hwn yw deunydd trasiediau goreu'r byd, gwaith Shakespeare a Racine.

Ceir enghraifft drawiadol mewn darn hysbys o ddrama William Shakespeare, Richard II, "This royal throne of kings, this sceptred isle..This blessed plot, this earth, this realm, this England".