Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

shifft

shifft

O dipyn i beth datblygodd carwriaeth rhyngddo ef a Mary, a phan godai Ali'n fore i weithio shifft gynnar, nid yn anaml neidiai Fred o un gwely i'r llall i'w gadw'n gynnes, fel petai!

Ond roedd yn rhaid iddi weithio ddwy shifft bnawn yr wythnos, beth bynnag.

Y ffordd oeddan ni'n cael ein talu oedd fesul faint o becynnau oeddem ni'n eu symud o le i le yn ystod shifft.

Wrth i un rigiwr godi o'i giando i fynd ar ei shifft byddai un arall yn barod i neidio i'r un gwely wedi gorffen ei shifft ef.

Pwysodd Ditectif Ringyll Gareth Lloyd ar ymyl y cownter yn gwrando ar John Williams, y rhingyll shifft chwech o'r gloch y bore tan ddau y prynhawn, yn adrodd hanes ffrwgwd Nos Galan yn un o dafarnau'r dref.

Ond fel arfer roedd yn well ganddi hi'r shifft gynharach, er mwyn bod adre pan gyrhaeddai Shirley ac Alan, yn lle bod y cyfrifoldeb yn syrthio ar Beti o hyd.

O safbwynt iaith leiafrifol fel y Gymraeg sydd wedi bod heb statws mewn cynifer o feysydd allweddol am gymaint o flynyddoedd, y mae colli hyder yn safon a pherthnasoldeb yr iaith a siaredir yn gallu esgor ar shifft araf tuag at ddefnydd helaethach o'r iaith ddominyddol mewn gwahanol sefyllfaoedd.