Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sibrydion

sibrydion

Yna lapiodd y tywyllwch hwynt, a diflanasant mewn sibrydion.

Roeddwn i wedi clywed sibrydion am y mater hwn cyn mynd i UEFA yn Amsterdam, ond yno fe gês i air efo Llywydd De Iwerddon ac oedd on ffyddiog iawn y bysen ni'n cwrdd i fynd ar syniad ymhellach, meddai J. O. Hughes, Llywydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru.

'Roedd sibrydion am Littlemore eisoes ar led; dywedid fod Newman wedi'i lunio ar ffurf mynachlog.

Mae sibrydion fod John Hollins, rheolwr tîm llwyddiannus Abertawe ar y rhestr fer am swydd rheolwr Leicester City.

Mae sibrydion bod chwaraewr canol-cae Cymru, Craig Bellamy, am symud o Coventry - tasai'r clwb yn disgyn o'r Uwch-gynghrair ddiwedd y tymor.

'Ond mae pob un wedi clywed sibrydion dros y lle bod Caerdydd yn dishgwl ar un neu ddau o hyfforddwyr eraill.

I goroni noson ddiflas Abertawe mae sibrydion bod eu golwr rhyngwladol, Roger Freestone, ar ei ffordd i Gaerdydd.

Cymerer wedyn ran olaf Soned XXXI: Cusana'r lloer y lli, mae'r ffrydiau'n dwyn I'r wendon serch-sibrydion llyn a llwyn, Ac awgrym ddaw i ddyn drwy gyfrin ddor Y cread o ryw undeb dwyfol hardd A dreiddia drwy'r cyfanfyd; tithau'r Nos, Delweddu wnei y dylanwadau cudd; O'r llwydwyll byw-ymrithia i wyddfod bardd Ei ddelfryd hoff, a genir odlig dlos Neu awdl gain neu farwnad felys-brudd.

Ac yna dechreuodd y sibrydion fel gwynt yn yr hesg.

Mae sibrydion bod Rhys Weston, amddiffynnwr Arsenal a chapten tîm dan 21 Cymru, ar fin arwyddo i Gaerdydd.

a dowch i gweld fi'n ddi-ffael dydd Llun.' A dyna'r union eiriau y bu'n eu rihyrsio mewn sibrydion o'r tu cefn imi rai eiliadau ynghynt.

Mae sibrydion fod Dundee United am arwyddo ymosodwr Cymru, Dean Saunders, ar fenthyg o Bradford.

Ar y Post Cyntaf y bore yma bu'n son am y golled petae Caerdydd yn colli'r tîm, ac am y sibrydion y gallai'r Devils symud i Ddulyn.

Fe'i clywn wrthi'n anadlu ac yn sipian, ac yna, er syndod, dyma'i glywed yn sisial (nid wrthyf i, ond wrtho'i hunan) y sibrydion hyn a gofiaf yn eglur hyd heddiw: .

Nid oes amheuaeth nad yw'r sibrydion cynnil yn llawer mwy effeithiol.