Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sibrydodd

sibrydodd

Ydy hithau'n dwad Ddolwyddelan?" "Ydy, yn ôl pob sôn." "A'r un mor barod i frwydro?" "Ia, ddyliwn." "Gwytnwch a rhuddin hil Rhodri ac Owain Gwynedd o Benychain ym mêr yr esgyrn." Yna sibrydodd Elystan o dan ei anadl rhag i'r ddeuddyn arall ei glywed, "Os byth y bydd angen Ysgrifydd arni i ysgrifennu drosti mewn llythrennau cain, fe ŵyr hi at bwy i droi.

Ryw hannar milltir cwta sy' rhwng fa'ma a'r Felin 'cw." Sibrydodd, "Dydan ni'n dau yn gymdogion rŵan." A chyda'r addewid rasol yna, a chan gydio yn dynn yng nghlust Hywal y mab, camodd Laura Elin y Felin, yn llythrennol o'r Nef i'r niwl.

Chwarddai Capten yn foddhaus, ac wrth fynd i'r leins wedi i'r gloch ganu, sibrydodd yn fy nghlust, "Ardderchog, fachgen.

"Fedra i ddim symud fy mraich chwith na'm coes chwaith," sibrydodd wrth Royal.

Mae eu henwau nhw i gyd i lawr yn y fan yma gen i." "Dewch i fyny i'r ffau," sibrydodd Wyn.

'Dyma fo,' sibrydodd Iestyn yn sydyn.

'Mae'n rhaid bod ganddynt rywbeth dan y ddaear i symud y garreg yn ôl i'w lle,' sibrydodd Iestyn.

"Rhaid i chi ddianc drwy un o'r ffenestri heno," sibrydodd y nyrs garedig wrth Douglas Bader pan gafodd gyfle.

sibrydodd Elen.

'Hwyl,' sibrydodd Huw yn dawel fach wrth wylio cysgod ei frawd ar y pared.

"Dyna ddechrau iawn beth bynnag," sibrydodd Huw, yna, gwelodd Iona yn rhythu arno a brysiodd i gefn y car i nôl y bag yn dal ei deganau a'i lyfrau er mwyn eu cario i lofft y bechgyn.

Hwyrach mai'r Brenin Arthur sydd yna!' 'Bydd ddistaw!' sibrydodd Alun gan roi pwniad i Bleddyn yn ei fraich.

'Caledfwlch!' sibrydodd Bedwyr, a rhyfeddod yn ei lygaid.

"Mae'n bryd i rywun roi bwled yn y cnaf taeog," sibrydodd Jean Marcel yn ddistaw.

'Rşan, Gethin,' sibrydodd Ffredi, 'paid â cholli arnat dy hun.'

"Codwch!" sibrydodd gwraig y bwthyn wrtho fore drannoeth.

'Diolch i Duw 'mod i'n fyw!' sibrydodd wrthi ei hun.

'Rwyt tithe hefyd yn mynd i golli dy fam, y bychan bach, sibrydodd yn isel.

"Mi rydw i wedi cael strôc," sibrydodd yn wan yng nghlust Rex, "ac os na allaf fynd adref i le cynnes, a chael meddyg, mi fyddaf yn farw'n fuan.

"Wasi," sibrydodd yn fy nghlust, "mae hi'n cychwyn yn addawol yma." "Ydi, 'ddyliwn," meddwn i, gan snwffian.

'Paid!' sibrydodd Ifan eto, wrth i Dilwyn ymsythu, 'Nid dyna'r ffordd.' Wedi distawrwydd am rai eiliadau, atebodd Dilwyn mewn llais nad oedd fawr uwch na sibrydiad, 'Cer o 'ma'r bwllwch.

Ryw fath o bwys gloesi mawr a marw ar y cefnfor.' '"Dyddiau dyn sy' fel y glaswelltyn",' sibrydodd yr hwsmon.

'Gyfaill, pwy wyt ti?' sibrydodd.

"Sh!" sibrydodd.

Yna, wrth i Gethin ei lapio'i hun amdano, crawciodd yn boenus, 'He, gofala lle wyt ti'n gosod y blydi sugnydd, wnei di!' 'Ddrwg g-gen i,' sibrydodd y gelen a'i enau wedi'u cloi'n dynn.

'Ffoi am y winllan cyn gynted ag y medrwn ni,' sibrydodd Gareth.

'Dyw e ddim gwerth y trwbwl, Dil,' sibrydodd Ifan yng nghlust ei ffrind.