Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sicrhaodd

sicrhaodd

Yng Nghynghrair y Pencampwyr sicrhaodd Manchester United eu lle yn yr wyth ola.

Roedd y diwrnod a sicrhaodd ei fod e'n cael ei enwi yno yn un arbennig iawn ...

Ond, er bod traddodiad diwydiannau trymion De Cymru yn cael sylw mawr, anwybyddir adeiladwyr llongau a llongwyr y Gogledd i raddau helaeth, sef y bobl a sicrhaodd gyfoeth i'r ardal ac a alluogodd i lawer o gapeli, ysgolion a cholegau'r rhanbarth gael eu hadeiladu.

Ymddiheurodd am nad oedd yno pan gyrhaeddodd, ond sicrhaodd ef hi nad oedd hynny o bwys am mai tu allan roedd y difrod.

Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad o lafur diflino pawb a sicrhaodd lwyddiant y cynhyrchiad, gan hyderu ei fod wedi ennyn yn y gynulleidfa rwyfaint o'r blas a gafodd darllenwyr gwreiddiol O Law i Law hanner can mlynedd yn ôl.

Fel llenor, yr oedd yn unigryw yn ei chyfnod a buan iawn y sicrhaodd sylw ac edmygedd cenedlaethol gyda chefnogaeth gwyr amlwg fel yr Athro W.

Bu'r Ymofynnydd erioed yn ddolen rhwng yr aelodau a'i gilydd ac yn bont rhyngddynt a'r byd, a sicrhaodd Jacob fod y swyddogaeth bwysig yma yn cael ei chyflawni yn ystod ei olygyddiaeth ef, gan ei wneud yn gyfrwng mwy effeithiol nag a fu erioed.

Sicrhaodd ein rheng flaen feistrolaeth lwyr ar reng flaen y gleision, a chan i Derek Quinnell ei hyrddio'i hunan o gwmpas y cae roedd gofyn cael dau neu dri i'w daclo a'i rwystro.

Daeth y Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth i Gaerdydd i ddathlu Wythnos Wyddoniaeth eleni, ac, yn awyddus i roi'r pwnc o fewn cyrraedd pawb, dangosodd BBC Cymru Mad on Science, a gynhyrchwyd gan Cambrensis, a sicrhaodd brwdfrydedd heintus y cyflwynydd Gareth Jones gynulleidfa fawr i bwnc difrifol.

Sicrhaodd fod mwy nag un o'i naw brawd a chwaer yn cael swyddi bras.

JE Caerwyn Williams, yn ei ddull manwl arferol, a sicrhaodd gywirdeb y testun, ac achubodd hefyd ar y cyfle i ychwanegu, o'i wybodaeth hynod eang am lenyddiaeth Cymru ac Ewrop yn y cyfnod canol, doreth o nodiadau tra defnyddiol ar fanylion iaith a chynnwys a fydd yn goleuo'r testun mewn modd amheuthun i bawb a fydd yn ei ddefnyddio.

Gyda'r cwtogi gan yr Awdurdod nid oedd yr ysgolion yn cael Cinio Nadolig, ond fe sicrhaodd Mrs Jones fod yr ysgol yn cael eu cinio Nadolig Traddodiadol fel o'r blaen yn aml iawn ar ei chost ei hunan.

Dathliad pwysig arall yw Dydd Oxi (sy'n golygu Na) ar Hydref 28 i gofio'r dydd y penderfynodd y Prif Weinidog ddweud Na a gwrthod mynediad i'r Eidalwyr i'r wlad yn 1940 - y weithred a sicrhaodd fod y Groegwyr yn ymuno â'r Ail Ryfel Byd.

Yno y sicrhaodd y Swans ddyrchafiad i'r Ail Adran.

Sicrhaodd Frank Warren y ffeit a bydd yn gyfle i Dai Gardiner, sy'n rheoli Regan, gael pencampwr y byd arall dan ei adain yn ogystal a Steve Robinson, pencampwr pwysau pryf y byd, sy'n dod o Gaerdydd.

Sicrhaodd fod ei rhaglen yn cyrraedd uchafbwynt gyda'i chyflwyniad o gân allan o Sappho gan Gounod.

Nawr fe allech chi holi beth a oedd mor arbennig ynglŷn â neidio Archie; beth a sicrhaodd le iddo yn Llyfr Cofnodion Guiness.

Ond, eto'i gyd, er i lawer o unigolion gael eu hysbrydoli gan Benyberth i wneud eu gorau dros Gymru, ni sicrhaodd unrhyw doriad gwawr gan nad oedd y peirianwaith gwleidyddol yn bod trwy Gymru, ac yn y pedwardegau bu rhaid i'r mudiad i raddau ailgychwyn.

Er clod iddo, sicrhaodd Gadaffi - ar y dechrau, beth bynnag - fod cyfran o gyfoeth yr olew yn cael ei rannu'n deg rhwng y bobl.