Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

siec

siec

wnewch chi ddeud wrth Mr Rowlands y bydd yna siec yn y post cyn gynted ag y bydd Mrs Evans ein trysorydd ni wedi gwella o'r ffliw?'

Er bod y Bwrdd Marchnata Llaeth yn sicrhau siec fisol i rai ffermwyr, rhyw grafu byw mae'r mwyafrif sy'n gweithio'r tir.

Yn ddiweddarach y clywodd Rhian am haelioni Bernard Hogan yn anfon siec sylweddol iawn i'w nai.

Rydw i'n stwna yn y car am y llyfr siec.

Ond buan iawn y bu'n rhaid tynnu pob label pan ddeallwyd na chyflwynasai Ward Williams y siec i'r banc.

Nodyn byr gan Mrs Paton Jones a siec am hanner canpunt ar gyfer ei wyliau.

Er mwyn archebu copi o'r calendr gyrrwch siec am £4.50 yn daladwy i BBC Cymru i Calendr Pobol y Cwm, Ystafell C1038A, BBC Cymru, Llantrisant Road, Caerdydd, CF5 2YQ.

Credai Dr Tom yn bendant iawn ei fod wedi prynu'r casgliadau hyn a sicrhau'r coleg ym Mangor, ond y ffaith amdani yw na newidiodd Ward Williams mo'r siec amdanynt.

Be ydi'r pwynt iddyn nhw berffeithio'r System a chymryd blynyddoedd i ddyfeisio peiriannau sy'n arbed yr holl amser 'da chi'n ei gymryd i lenwi siec, os ydach chi'n mynnu dod â'ch hen fodryb naw-deg-rwbath allan efo chi i ddewis bloda?

Does dim angen sgwennu siec bellach, mi wnaiff y cerdyn yn unig y tro, Ylwch, mae na fashîn sbeshial yn fan hyn ar ei gyfer o.

Mewn gwirionedd, dydi o ddim yn cymryd llawer llai o amser na siec.

Aeth Hector heb ei ginio y diwrnod hwnnw er mwyn carlamu i'r banc a'r siec - a phrofi siom fod y clerc yno mor ddifater yn derbyn yr arian.

Ac wedyn byddai'n rhaid iddo ffonior giaffar efo'r neges am y siec yn y post.

Does dim angen sgwennu siec bellach, mi wnaiff y cerdyn yn unig y tro, Ylwch, mae na fashŵn sbeshial yn fan hyn ar ei gyfer o.

Ar Ddydd Gwener yr 20fed o Hydref, gwrthododd un o brif siopau Caerdydd â derbyn siec gan gwsmer - a hynny am ei bod wedi'i hysgrifennu yn Gymraeg.

Ambell dro byddai un o'r hogiau'n fyr o arian ac yn gofyn iddi newid siec.

Ond gwrthodwyd ei siec, ac ni chafwyd hyd i unrhywun arall yn y siop a oedd yn gallu siarad Cymraeg.

Pan af at y cownter, dywed y dyn nad siec sydd ei angen ond y cerdyn.

"Mewn garej ydy ni, Bigw.' Pan af at y cownter, dywed y dyn nad siec sydd ei angen ond y cerdyn.