Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sigaret

sigaret

Pan weithiai ar y meysydd a dyfod chwant bwyd arno cyn amser cinio neu amser te, ysmygai sigaret i leddfu'r chwant.

Rwy'n hoffi arogl baco." Taniais y sigaret a chwythu llond ysgyfaint o fwg i'w gyfeiriad ac fe'i gwyntiodd fel daeargi wrth dwll llygoden fawr.

Gyda'r newyn daeth awydd angerddol am ysmygu sigaret.

Gyda'r newyn yn y gell gosb daeth yr hiraeth am sigaret; hiraeth am glywed ei haroglau, am osod y tân wrth ei blaen melyn, gollwng y mwg glas allan rhwng ei wefusau a'i weled yn ymdorchi i'r awyr.

Mae'n wir nad oes yma ddawns a miwsig Siwan neu 'Gymerwch Chi Sigaret?

"O'r gore, os fel'na mae hi i fod..." Gwasgodd ei sigaret i'r llestr llwch a gorwedd yn ôl yn ei sedd.

Prin y medrai weld y gongl bellaf gan fwg sigaret a stêm.

Eisteddais i lawr eto gan chwilota'n ddifeddwl am sigaret ac yna arhosais.

Ar ôl cynnig sigaret iddo a thanio fy nghetyn, daeth i'r pwynt.

Fa'ma neu Libfafi.' atebodd Malcym wrth dynnu ar ei sigaret yn cŵl.

Rhaid iddo aros am ddwy flynedd cyn gweled sigaret mwy.