Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sinistr

sinistr

Daeth y ddau Mephistopheles (Christian Bradshaw a Ben Addis) ag elfen o ddoniolwch manig i'r perfformiad, ond heb gollir dychryn sinistr.

Nofel antur sinistr yn astudio nodweddion mwyaf eithafol y natur ddynol.

Er bod mics Steffan Cravos yr un mor sinistr â'r fersiwn wreiddiol, mae'r offerynnau pres yn chwarae rhan amlwg ar y trac cyntaf, ac maent yn ychwanegu llawer at effeithlonrwydd y gân.

Does dim byd sinistr tu ôl i hyn, tydi'r man in a grey anorack ddim wedi awgrymu bod hi'n amser i mi dreulio mwy o amser efo 'nheulu, nac yn wir bod hi'n amser i mi gychwyn un.

Dychmygai weld ffurf sinistr, tywyll y dewin yn sefyll wrth bob llidiart a choeden, ond yr oedd pobman yn dawel a dim ond sŵn ei draed yn atsain ar y ffordd oedd i'w glywed.

Er hynny, buan mae'r drymiau a'r gitars yn tarfu, gan gyfleu'r gwahaniaeth rhwng yr ochr angylaidd a'r agweddau mwy sinistr sydd i fywyd.

Mae rhywbeth cymharol sinistr ynghylch hon ac, yn sicr, mae hi'n profi fod gan Teflon Monkey ddigon i'w gynnig yn y Gymraeg yn ogystal.