Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

siom

siom

Ond siom eto.

Roedd hynny hefyd yn siom.

Roedd hi'n noson o siom i Rangers.

Mae ymosodwr Lerpwl Robbie Fowler wedi dweud na fydd e'n gallu cuddio'i siom os na fydd e'n chwarae yn erbyn Arsenal.

Arweiniodd y siom at brotestio tanbaid.

(b) Datgan siom wrth y Swyddfa Gymreig ynglŷn â phrinder amser i gyflwyno sylwadau ar y cynllun.

Trosiad hir yw'r gerdd, ymysg pethau eraill, mae mor gyfoethog ei hawgrymiadau, o'r gynhaliaeth ysbrydol sydd i feidrolyn i wynebu ei feidroldeb yn ei aml boen a'i siom a'i anobaith.

Er mawr siom iddo collodd Llew Rhys, mab Nia, i Hywel.

Yr Unol Daleithiau yn datgan siom ac yn creu gwasgfa economaidd gan orfodi Prydain i dynnu eu milwyr yn ôl.

Bu methiant y myfyrwyr i gyd-weithio'n effeithiol gyda'r gweithwyr a'r modd y bu i brotest y chwedegau chwythu'i phlwc yn gryn siom i Schneider a nifer o'i gyfoedion.

Fe ddigwydd lot o bethe oddi ar y bêl, hefyd, ac yr oedd yn amlwg oddi wrth sylwadau'r Saeson ar ôl y gêm bod nhw wedi cael tipyn o siom o golli gartre.

Cynyddai'r cynnwrf a'r siom ynddi a chododd yn sydyn a gwisgo'i gwn werdd gynnes, anrheg pen blwydd ei thad iddi, a mynd allan i'r berllan gan gerdded yn gyffrous rhwng y coed, 'nôl a mlaen ar hyd ac o gwmpas y llyn pysgod am hanner awr gyfan gan fwmian iddi ei hun: 'Hannah ddim yn deall .

Mi ragdybiaf y bydd y ffigurau a gyhoeddir cyn hir yn sioc ac yn siom i'r rheini ohonom sy'n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg.

'Roeddynt yn sylweddoli'r siom a fyddai hyn i'r Awdurdod, yn llwyr gytuno ynglŷn â'r angen, ond o'r farn mai trwy gydweithrediad rhwng yr holl Awdurdodau Addysg yng Nghymru dan nawdd Corff Cenedlaethol fel Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru y dylid symud ymlaen, yn hytrach nag unrhyw Awdurdod Addysg yn gweithredu ar ei ben ei hun.

Ond, na þ 'r un arwydd o lawenydd na siom, dim cysgod gwên na gwg þ dim byd cynt, yn ystod y chwarae, nac wedyn.

'A phan gyrhaeddodd Meiledi'r porthladd roedd y newydd, newydd gyrradd, bod 'i gorff o wedi'i gladdu yn yr eigion.' ''Fedra i ond dychmygu maint 'i siom hi, a chydymdeimlo i'r byw.' ''Does dim raid i ti fyta bara gofidia yr un eiliad yn 'chwanag.

A dyna'r tro cyntaf i gymysgedd o deimladau fynd ar draws ei gilydd þ siom a hiraeth, ac yn fwy na'r cwbwl tosturi am fod breuddwyd rhywun arall wedi'i ddinistrio þ er mai dim ond berfa oedd o.

Disgrifir siom Elin yn gelfydd, wrth i'r awdures gymharu'r profiad â chanfod siop ddillad ar gau a dadlennir llawer am greulondeb henaint trwy gyfrwng y ddelwedd.

Troais yn awchus at y cerddi - a chael siom.

Fi'n cofio'r Beatles yn y swyddfa, ac fe gefais i bip arnyn nhw, ond wnes i ddim cwrdd â nhw, oedd hwnna'n siom ar y pryd".

Er siom i Jabas, dychwelodd ei dad a'i ddau ffrind i'w gwaseidd-dra arferol pan gynigiwyd cwrw iddynt.

ddim oll i gynnig unrhyw help iddo; a chafodd Waldo siom enbyd, a theimlodd ddigalondid dybryd.

Anodd dirnad y siom a achosodd y llythyr i fachgen ifanc, gorfrwdfrydig a llawn syniadau ynglŷn â gweddnewid ein diwylliant.

Cerddodd pawb yn bwyllog i ganol y pentre ac at y ffynnon ond er mawr siom roedd hi wedi sychu'n grimp.

(ii) Datgan siom na chafodd yr aelodau perthnasol wahoddiad i'r cyfarfod a gofyn iddynt sicrhau bod cynrychiolaeth o'r Cyngor hwn yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd cyffelyb i'r dyfodol.

Ar fy synnwyr digrifwch i, neu ei ddiffyg, y mae'r bai efallai; yr hen duedd yma sydd ynof o fod eisiau tynnu'r mwgwd i weld y deigryn ar rudd y clown a'r siom ar wyneb y chwaraewr dartiau.

O'r holl siom a phoen a brofodd y tri ohonynt ers iddynt lanio, ni sylweddolodd yr un ohonynt y posibilrwydd hwn.

Nid chwilio am Goron yr oedd T. James Jones, ond am glust i'w siom yn ei gydwladwyr wedi canlyniad y refferendwm ar ddatganoli.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Byddai'r person cyntaf i gyffwrdd y goron ar y fan bost yn gallu cael unrhyw ddymuniad a hoffai; gallai'r ail berson gael cusan ond câi'r trydydd person siom.

'Mae hyn yn siom fawr i Lee,' meddai Wayne Phillips.

Yr oedd hyn yn siom fawr iddo.

Byddai'n siom i amryw colli'r garej hon a hithau wedi bod yn ddefnyddiol iawn iddynt ar hyd y blynyddoedd.

Mae e wedi setlo lawr a mae wedi dangos ei ddoniau ar y cae pêl-droed gyda Wimbledon ar ôl y siom o fethu mynd i Rangers.

Yr unig siom gyda Clockwork o bosib ydi'r ffaith na chafodd Dyn ei chynnwys arni.

Cafodd ei threisio ganddo ac er mawr siom i Karen penderfynodd y llys beidio â'i chredu.

Clywais ef yn sôn gyda chryn siom am yr arferiad o urddo pob ysgrifennydd cyffredinol yn aelod o'r Orsedd ar ddiwedd ei yrfa.

Fe deimles i dipyn o siom ar ôl i ni gollir ffeinal Benson & Hedges, ond mae rhywbeth wedi dod mâs ohono fe, meddai Croft wrth BBC Radio Cymru.

o'r fath siom!

(ii) Anfon llythyr at berchennog y safle yn datgan siom ynglŷn â'r hyn a oedd yn digwydd ar y tir.

James Jones, ond am glust i'w siom yn ei gydwladwyr wedi canlyniad y refferendwm ar ddatganoli.

Gellir dirnad y siom a'r chwerwedd yng ngwawd y rhai a watwarai Iesu, yn cynnwys y 'lleidr' (gwrthryfelwr, yn bur sicr) a waeddai, 'Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau'.

Aeth Hector heb ei ginio y diwrnod hwnnw er mwyn carlamu i'r banc a'r siec - a phrofi siom fod y clerc yno mor ddifater yn derbyn yr arian.

Dyna pryd mae pobl yn draddodiadol yn gwario lot o arian!' Un siom i Ankst yw cyn lleied o gasetiau sy'n cael eu gwerthu mewn dawnsfeydd; mae'n amlwg fod gwario pedair neu bum punt ar gase/ t ar ben tocyn ac arian cwrw yn ormod gan rai.

Ac roedd ei ddirmyg yn anos ei oddef am ei bod hi'n gwybod nad rhyddhad a deimlodd - ond siom!

Digwyddai hyn fel arfer pan geid cyfuniad o dair ffactor: cyni economaidd siom y dosbarth swyddogol yn eu disgwyliad am ffafrau o law eu harglwyddi, a rhyw ddrysu neu lacio ar y cwlwm gwrogaeth rhwng yr arglwydd a'i wŷr.

Cawsai llythyr Hannah ei effaith, ond roedd yn siom hefyd.

Bu cryn bwyso arnaf i ddysgu canu'r piano pan oeddwn yn hogyn, ond yn fy ffolineb mi wrthwynebais, er mawr siom imi'n ddiweddarach.

Yn y gemau ail-gyfle neithiwr, siom i John Davies o Hull, ar ôl i'w dîm e golli o ddwy i un yn erbyn Leyton Orient.

Gan fy mod wedi bod ar ei ben yr haf cynt, siom oedd gweld gorchudd o gwmwl drosto o hyd.

Yn amlwg 'roedd hyn yn siom enfawr i'r mwyafrif, yn enwedig o ystyried nad yw'r caneuon newydd wedi cael eu perfformio rhyw lawer - ond mae yna fai ar y ddwy ochr yn fy marn i.

Thema ganolog: Oes y Brotest: cyfnod y protestio mawr yng Nghymru ac ym Mharis, America, a mannau eraill; yr Arwisgo yng Nghymru yn chwalu gobeithion llawer ond yn caledu cenedlaetholdeb, protestio mawr gan Gymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod, ond y cyfan yn diweddau mewn siom gyda phleidlais negyddol Cymru yn y Refferendwm ar Ddatganoli ym 1979, ac ymateb T.James Jones yng nghystadleuaeth y Goron.

Yr oedd hithau yn gwybod yn iawn mai siom a gafodd ei chariad.

Mae hyn wedi bod yn dipyn o siom i ni.

O fod wedi disgwyl adroddiad cytbwys, a chynrychiolaeth deg i'r Ymneilltuwyr, roedd sylweddoli mai tri Sais uniaith a apwyntiwyd a'u bod, ynghyd â'r mwyafrif o'u cynorthwywyr, yn Eglwyswyr, yn siom fawr i'r addysgwyr Ymneilltuol yn lleol.

Wedir siom yn Lords ddydd Sadwrn, pob clod i Forgannwg am ymladd yn ôl i ennill eu trydedd gêm yn y gystadleuaeth y tymor yma.

Cafodd Emma siom o ddarganfod fod gan Madog hefyd gefndir o gyffuriau.

Yn ôl Dana, mae Duw yng nghariad yr ymgnawdoliad yn rhoi lle i ni gyd fynegi ein dicter, ein siom an hangerdd.

'Ar ôl siom y gêm honno rydyn i wedi gweithio'n galed ar ein hamddiffyn.

Byddai'r rhain yn gwahaniaethu o fro i fro neu'n newid o dymor i dymor, ac yn peri hwyl neu siom, ac felly yn mynd yn ddeunydd cof ac ymddiddan.

'Y siom mwyaf oedd gweld y ffenest, a arferai fod yn lliwgar ddeniadol ac yn llawn bywyd, mor wag.

Thema ganolog: Llwyddiant: symud ymlaen ar ôl siom y Refferendwm ar Ddatganoli at brotest Gwynfor Evans ym 1980 ynghylch sefydlu Pedwaredd Sianel Cymru; sefydlu'r Sianel ym 1982, a diweddu gyda Chymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r ail Refferendwm ar Ddatganoli, a'r Cynulliad ar ei ffordd ar gyfer y mileniwm newydd.

Ond er syndod a siom i'm rhieni bu raid imi fynd i ddosbarth isaf yr ysgol, dosbarth y babanod.

Gad inni fwynhau gweddill yr amser.' Ond er nad oedd neb arall yn y cerbyd, ni cheisiodd glosio ati; roedd wedi ei feddiannu gan siom a dadrith.

Dydw i ddim yn mynd i sôn am wendidau ond rhaid imi ddweud taw tipyn o siom oedd ffilmiau byrion Gwobr DM Davies, gan y gwneuthurwyr ffilmiau ifainc (pobl ifainc sy'n gwneud ffilmiau - nid ffilmiau ifainc) â chysylltiadau â Chymru (ac eithrio un ffilm a welwyd nad oedd ei gwneuthurwr ag unrhyw gysylltiad â Chymru o gwbl a bu'n rhaid ei ddileu o'r gystadleuaeth).

Yn y Cynghrair Cenedlaethol, neithiwr, anghofiodd Y Barri'r siom o golli yn erbyn UWIC/Inter Caerdydd ddydd Sadwrn.

Ond fy ateb oedd, "Nawr mae'r frwydr yn dechrau!" Diamau i mi gael siom aruthrol, oherwydd, erbyn Cynhadledd y Cilgwyn, 'roeddwn fel Job gynt, yn llawn cornwydydd, ond nid ataliodd hyn ddim ar y gweithgareddau na'r brwdfrydedd.

Mae Iwan Llwyd yn mynd â ni yn ôl i flasu eto y chwerwder a'r siom a brofwyd un mlynedd ar ddeg ynghynt wedi i Gymru droi ei chefn ar Ddatganoli.

Dechreuodd Rhian fynd allan gyda Jason a chafodd siom ynddo pan ddarganfu ei fod yn briod.

Ond, fel yr âi'r oriau yn eu blaenau, ni allai atal ei siom.

Ni fwriedir codi ofn ar ddarpar ddysgwyr ond yn hytrach bod yn realistig ac osgoi siom a rhwystredigaeth sydd yn eu tro yn arwain at adael y dosbarth.GWEN TOMOS - Robert Rhys

Siom yn unig oedd yr olaf, ond 'roedd colli'r decpunt yn ddifrifol.

Lliniarwyd y siom gan y swper ardderchog a'r sgwrs anfarwol a gefais gydag ER Yn ei

Mae'r bryddest yn llawn o angst y cyfnod ôl-Ryfel: siom, dadrith, euogrwydd, gwacter ystyr, a chais i foddi'r gwacter ystyr hwnnw yn y clybiau nos yng nghanol meddwdod, anfoesoldeb, y 'tango' a 'jazz'. Ceir ynddi ddisgrifiadau cignoeth o ymladd yn y ffosydd.

Mae Abertawe ar dân a'r unig siom yw fod y gemau Cwpan Heineken drosodd tan Ionawr.

Er mawr siom i Dil aeth Sabrina yn ôl at Jac ac yn 1984 symudodd y teulu i Fryste.

Ers bod yng Nghwmderi mae Rhian wedi cael sawl carwriaeth - er mawr siom i Reg bu'n gweld Steffan ac yna Gavin.