Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

siopa

siopa

yr un teimlad ag a gâi wrth fynd i siopa 'da Janet i waelod Heol Eglwys Fair, wrth syllu ar y lamp fawr ar ffurf bachgen du'n dal gole yn y caffe crand gwyn 'na, a phawb yn wyn yn y siope, a'r tegane a phopeth, a'r bobl yn y llyfre - ar wahân i'r goliwogs - Jolly Wogs ...

Neu mae'n rhywun sydd ddim eisiau mynd allan i siopa ddydd Sadwrn efo'i wraig.

Mae'r we yn caniatáu chwarae a gweithio, siopa a sbecian o'r cartref.

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.

Mynd i siopa i'r archfarchnad yn Yiyang i ddechrau.

Cyn i Gyngor Henoed Gwynedd sefydlu'i annibyniaeth, sefydlwyd canolfan ddydd wirfoddol yn Nyffryn Ardudwy, gwnaed ymchwil i'r angen am ganolfannau dydd eraill yn Arfon, a chyd-weithiwyd a'r WRVS er sefydlu gwasanaeth siopa i'r henoed yn Arfon.

Rhestr siopa sydd yma mewn gwirionedd, rhestr o ymatebion pobol i'r ymgyrch losgi.

Ar ôl cinio mynd i siopa o gwmpas y dref.

A'r un diwrnod pan oedd ein gwragedd yn siopa a ninnau'n edrych ar rywbeth neu'i gilydd daeth merch ifanc arall ataf gyda 'hard luck story' ac eisiau arian.

Cafodd gyfle i siopa rywfaint yn Heol y Bont-faen ar y ffordd, a chael sana a chig moch a bara, a hannar ffag efo Elsi ar y bws wedyn!

Yr un funud daeth gair Abel i'm meddwl, ``Paid â dychymygu am siopa a phregethu,'' a meddyliais y byddai raid i mi roi heibio'r pregethu hefyd.

Fe gewch chi fynd i Bridgetown i siopa gyda Meri, Ydych chi'n fodlon ar hynny?" "Ydw," atebodd hi'n gwta heb edrych arno.

Yn lle derbyn cenhadaeth o weithio gyda'i gilydd i wella ysgol eu pentref, anogir rhieni i ystyried eu plant fel tuniau o ffa pob a 'siopa o gwmpas' am y del gorau.

Yno yr aent i siopa ac i drafod busnes ac yr oedd yr hyn a ddigwyddai ym Mhwllheli o ddiddordeb ysol iddynt.

Mewn sioliau y mae'r mamau yn cario eu plant mân yn 'Diwrnod i'r Brenin' - a nodwch fod y mamau yn mynd â'u plant mân gyda nhw ar y trên i siopa er bod eu gwŷr yn segur gartref ac yn rhydd i'w gwarchod.

Ond mi roedd y bobl yn dal i fyw eu bywydau, mi roedden nhw'n dal i fwynhau bywyd; doedden nhw ddim yn meddwl mai heddiw fyddai'r diwrnod ola' y bydden nhw'n mynd allan i siopa; roedden nhw jyst yn ei wneud o.

Gyda phawb sy'n dod ar y penwythnos yn aros yng ngwesty pedair seren Jury's ynghanol Caerdydd bydd amser rhydd yn cael ei neilltuo ar gyfer mymryn o siopa Nadolig yn y brifddinas yn ystod yr ymweliad.

Yn dilyn y lobïo ym Mhorthmadog bydd aelodau'r Gymdeithas yn symud ymlaen i Ganolfan Siopa Deiniol ym Mangor erbyn 2 o'r gloch.

Ni thrafferthai'r wraig ei wthio'n ôl i'w le; daliai goler ei chot ar gau yn dynn wrth ei gwddf â'i llaw dde a chariai fag siopa lledr coch yn ei llaw chwith.

Roedd ambell gyfle, wrth gwrs, i fynd allan am awr neu ddwy i wneud y siopa.

Galw sylweddol o du siaradwyr Cymraeg am ragor o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, yn enwedig wrth siopa neu wrth gysylltu â gwasanaethau cyhoeddus a'r cyfleustodau sydd wedi eu preifateiddio.

Mi gymrodd dipyn o amser i'w gwneud rhwng hel bocsus o siopa'r pentre a bod amser y brawd oedd yn y chweched dosbarth yn yr 'ysgol ganolraddol' yn brin, a hefyd nad oedd yr arfau þ lli a morthwyl a spocshef a chþn coed ddim llawer iawn gwell na'r arfau oedd gan y Bardd Cocos yn gwneud trol þ lli a chryman a morthwyl oedd ganddo fo.

Gwnâi Pamela ei siopa ar fore Sul.

Nid ei phrynu er mwyn ei defnyddio fel garej ond ei chwalu gyda'r bwriad o gael gwell mynedfa i'r cae at ddefnydd y bobol fyddai am fynd i'r ganolfan siopa.

Roedd y strydoedd yn llawn o bobl yn siopa.

Beth petawn yn estyn arian o 'mhoced ac ar yr union funud, y ddwy wraig yn dod yn ôl o'u siopa a'm gweld yn elusenna!

Ond wedyn penderfynodd mai'r peth gorau iddi ei wneud oedd gadael y rhan fwyaf o'r siopa tan yfory a gofyn i Emyr brynu twrci a choeden yn unig i ddechrau.

Adeiladwyd llawer o gartrefi modern, ac y mae cyfleusterau siopa a hamddena'r dref ymhlith y goreuon ym Mhrydain.

Ar ôl cinio, mynd i siopa unwiath eto yn Yiyang.

Ymhlith siaradwyr Cymraeg, mae hyder wrth ddefnyddio'r iaith ar ei uchaf gartref, wrth siopa, neu wrth gymdeithasu ond mae'n is wrth gysylltu â chyrff megis cynghorau lleol neu'r cyfleustodau sydd wedi eu preifateiddio.