Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sipian

sipian

Tra yn nesa/ u at y drws fe glywai chwerthin uchel ac o sbecian drwy'r ffenest gwelodd ei wraig a rhyw ūr ifanc golygus yn sipian siampên ac yn amlwg yn cael hwyl iawn.

'Democratiaeth wedi mynd yn wallgof, 'ddyliwn i.' Pwysodd yn ôl yn erbyn y silffoedd a oedd bron â chyrraedd y nenfwd, gan sipian ei goffi.

Beth well na sipian Pina Colada trwy welltyn o hanner cneuen tra'n diogi'n braf mewn hamoc rhwng dwy balmwydden?

Ffisig annwyd, eli babi, clapiau sebon, persawr, past dannedd, tabledi sipian at ddolur gwddw.

Roedd yna ryw synau rhyfedd o'i gwmpas bob amser; byddai'n anadlu'n hyglyw, ddrafftiog, yn ogystal â chreu sŵn sipian yn ei fochau, fel petai ar ganol cnoi'n wastadol.

Hogiau'r mor, yn ddi-waith ers blynyddoedd, oed y ddau ac yn treulio'u dyddiau bellach yn chwarae dominos a sipian cwrw yn nhafarnau Glan Morfa.

Y noson honno, roedd llawer o'r un pwysigion yn ôl ym mhrif westy'r ddinas yn bwyta danteithion a sipian siampên.

Roedd William yn lecio cael ei bryfocio gan Cathy a gwenai'n swil wrth sipian y coffi chwilboeth.

Rhyw hanner dwsin oedd yn y bar yn sipian eu gin a'u tonics.

Eisteddai yntau fel rhyw 'bennaeth mwyn' yn eu canol nhw yn sipian sudd oren ac yn rhyw hanner gwenu'n dadol.

Gwthiais y gwelltyn i'r twll a'i sipian yn braf, yna'i basio ymlaen i Bigw.

Fe'i clywn wrthi'n anadlu ac yn sipian, ac yna, er syndod, dyma'i glywed yn sisial (nid wrthyf i, ond wrtho'i hunan) y sibrydion hyn a gofiaf yn eglur hyd heddiw: .