Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

slei

slei

Edrychai'r Doctor Ymennydd arnaf yn reit slei: ac efallai ei fod yn meddwl fod pawb yn mynd yn rhyfedd ar saffari.

Yna yn slei bach, pan na fyddai neb yn edrach, byddai'r fuwch yn bwrw'i llo a hwnnw'n marw trwy rhyw amryfusedd am nad oedd neb yno i gadw golwg arno fo!

Hen ddyn slei a chynllwyngar oedd o, yn cyrraedd fel cawod o law o'r môr ac roedd llawer yn credu fod ganddo ddawn i ddymuno'n ddrwg drwy ddim ond taro ei lygad ar rywun.

'Doedd clywed mam a nhad yn ffraeo byth yn ein poeni ni fel plant, gan y gwyddom i sicrwydd na fyddai'r ffrae yn para yn hir iawn, mi fydda sylwadau doniol nhad, neu rhyw edrychiad slei, yn toddi mam.

Felly, edrychwch yn ofalus ar y gþr neu'r cariad y tro nesa y bydd yna ffilm go emosiynol ar y teledu, rhag ofn i chi ddigwydd ei ddal yn sychu'i lygaid yn slei back efo cefn ei law.

Ar ei ffordd i lawr i'r ystafelloedd ymolchi ar ddiwedd y dydd aeth am dro o gwmpas y Neuadd Ymgynnull i gael cip slei ar hysbysfyrddau'r tai.

Yn ystod y pwl chwerthin a ddilynodd ffraethineb ysblennydd yr athro taflodd gip slei ar y ddalen bapur o dan y llyfr gwaith.

Trinir popeth gyda'r un gofal, yr artist a'r gwahanol betheuach, y cyfan gyda hiwmor tawel, slei.

Aiff y broses o ad-feddiannu yn ei blaen bellach: daw'r Rex yn slei bach yn fan ymarfer ar gyfer y drymiwr, sy'n cadw Tref yn effro yn ystod y nos, ac aelodau eraill pyncaidd ei grŵp; yn garej ar gyfer motobeic Dave na all fforddio talu'r drwydded ar ei gyfer; ac yn ganolfan gymdeithasol ar gyfer hen ferched y cartref lle cant eu suo i gysgu o flaen y teledu ddydd a nos.

Un dydd Sul mi rois i solpitar yn ei fwyd, er mwyn gwneud iddo chwysu, ac yna, wedi iddo fynd i'w wely, mi agorais y ffenest' yn slei bach.

Dim pigau pin yn sownd yn y carped tan fis Mai; dim rhochian blynyddol Modryb Matilda ar ôl joch o port; dim crensian papur lapio'n slei bach i deimlo'r anrheg; dim anghofio codi am chwech y bore i roi'r twrci yn y popty; dim Ryan yn canu "Ai hyn yw'r Nadolig pwy a þyr?" ar bob yn ail raglen radio; dim chwilota mewn hen gist am goron Caspar neu am ddoli go lân i orwedd yn y preseb; dim 'Dolig!

Fe fu yna andros o ffrae un noson am fod Dad wedi ei dal hi'n rhoi bwyd iddo ar y slei.

Gwenodd arnaf, ac yna daeth rhyw olwg i'w llygaid - 'alla i ddim ond ei ddisgrifio fel slei.