Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sobr

sobr

GLWAD WYLLT Dywed yr awdurdodau gorau mai'r mynyddoedd gwlyb hyn a'r tir sobr o sal sydd yn Urmyc gan mwyaf, sydd wedi cadw'r iaith yn fyw.

O'r diwedd cyrhaeddodd John â golwg sobr arno.

Clywodd y prynwr o Groesoswallt am Oliver Thomas a'i ddarllen, nid hwyrach; a chlywodd y prynwr o Gaerfyrddin, oddi ar dafod ei dad a'i dad-cu, rai o benillion y Ficer Prichard; - ond yn eu gweithiau hwy yr oedd trefn ein lleferydd ar y brawddegau ac ystyron sobr ein byd-bob-dydd i'r geiriau.

Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.