Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sobrwydd

sobrwydd

Magodd y beirdd gydwybod gymdeithasol, a daeth canu i'r rhinweddau Cristionogol, megis sobrwydd ac elusengarwch, yn brif thema i'w gwaith.

Ceisiwyd gwneud John mor gyffyrddus ag y gellid ar lawr wrth y tân a phan gyffyrddai ei draed â rhywbeth gwaeddai dros y tŷ Yr oedd y plant mewn sobrwydd yn methu â deall beth oedd ar John heb ddim byd i'w ddweud wrthynt ond galw geiriau mawr a griddfan.

Ond yr ydych etto yn dilyn y cnawd, yn canu carolau i gyffroi eich chwantau, yn darllen llyfrau bydron anllad, ac yn gwenwyno y gwreiddyn pur, yn dilyn tafarnau, a thablerau, a llwon...yn dibrisio'r tlawd, yn byw yn hoyw, yn nhommen masweidd-dra, yn gwatwar sobrwydd...yngwely'r buttain, mewn gwleddau a glothineb, mewn meddwdod, a chwerthin, mewn cydorwedd a chywilydd...Deffro, Cyfod.