Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sodlau

sodlau

Mae llawer iawn o wir - nid caswir, dim ond gwir plaen - yn yr erthygl ddewr hon, a gyffrodd hyd at eu sodlau nifer o arweinwyr Cymreig y dydd.

Ac yn filwaith gwell na chicio'u sodlau ar gorneli stryd.

Ymysgydwodd Wil Dafis yn rhydd a brysio allan nerth ei sodlau yn ol i'r ffair.

Mae o wedi bod wrthi'n ffoi erstalwm rŵan, yn ffoi'n gylch o amgylch y byd a'r ysbrydion aflonydd ar ei sodlau'n ei hambygio ac yn ei gosbi.

Doedd y morwyr ddim yn or-hoff o gicio'u sodlau ar dir dieithr.

Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tþ wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'

newid sanau yno ac yna troi ar eu sodlau ac yn ol i Ogwen i ganol eira, niwl a gwynt!

Yr oedd sodlau f'esgidiau'n ddarnau ymhell cyn i mi gyrraedd i'r trum.

'Rþan y plismon plant ichdi,' ysgyrnygodd Nel yn sefyll a'i thraed un bob ochor i ben PC Llong a lledr ei sgidiau sodlau uchel yn cochi'i glustiau, 'tydi Vatilan heb ladd neb yn naddo?'

Roedd PC Llong yn cael trafferth cael ei wynt ato ac ni allai godi gan fod sodlau uchel Nel yn hoelio'i glustiau tywysogaidd i'r pafin.

Tywysodd Lisa yr ymwelydd o gwmpas, gan symud o'r meinciau at y byrddau, o'r torwyr at y peirianwyr, o'r rhesi o esgidiau lliwgar ar eu hanner at y gwadnau yn disgwyl am sodlau, ac o'r diwedd at yr esgidiau gorffenedig yn cael eu gosod yn daclus mewn blychau gwynion.

"Dwedwch wrth Mr Bassett ein bod yn mynd, Huw," meddai Idris, "ac fe wnawn ni'n tri waca/ u'r cwch, a rhoi ein pethe ni i mewn." I ffwrdd â'r tri a Chymro wrth eu sodlau.

Gyda Patrick Horgan fel corgi wrth eu sodlau roedd y llwyfan wedi ei osod am fuddugoliaeth.

Wrth iddo ddechrau dringo'r grisiau, gwyddai ei fod bron cyrraedd diogelwch, ond erbyn hyn roedd rhai o'r corachod wrth ei sodlau.

Trôdd pawb ar eu sodlau a cherdded i fyny'r llwybr llydan dan rowlio'r casgenni.

Nid am ei fod yn anabl i sefyll ar ei sodlau ei hun.

Petae ti'n gofyn pa un llinell sy'n mynd trwy fy meddwl i ar adegau anodd, yna Steve fyddai ar y blaen efo'r geiriau 'tyrd allan i ddawnsio'n y glaw a chodi dau fys ar y byd'. Mae Steve yn dynn wrth sodlau Waldo pan ddaw hi at ysbrydoliaeth.

Sandra aeth gyntaf, a Joni'n dilyn yn dynn wrth ei sodlau.