Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sodro

sodro

Fyddai Roci byth yn crwydro o'i gynefin heb gwmni ei ast ffyddlon, ac aeth a hi i mewn i dy'r cymydog a'i sodro wrth ei gadair o flaen y tan.

Pan gauoedd yr ysgolion llenwodd y lle gyda phobl ifanc rhai ohonynt yn sodro eu hunain wrth fyrddau i wneud gwaith ysgol a defnyddio'r siop fel llyfrgell.

"Tyrd efo ni, Jabi boi, i sodro'r uffar bach." Roedd gan Jabas gywilydd mawr o'i dad meddw.

Mae'r das yn y canol yn cael ei diffinio'n llwyr gan strociau o baent, amrywiol eu lliw, wedi eu sodro'n dew â chyllell balet, ac yn gwthio'r ddelwedd tuag at yr edrychwr.

Cyn i'r ddwy sobri rhuthrwyd hwy i Ddinas Ffaraon, fel y gelwid y bryn yn Eryri, eu sodro mewn twll digon gwlyb a'u claddu o'r golwg.

Mae'r gyfrol yma yn egluro pethau fel yr oedden nhw ac yn gwneud hynny trwy sodro pethau yn eu cyd-destun cymdeithasol.

Rhag ei tharfu a chwalu gobeithion, doedd ganddyn nhw ddim dewis ond ei sodro yn y car a chychwyn.

Codwn innau, gwisgo amdanaf, sodro bwrdd bychan o flaen fy nghadair, rhoi fy nhraed mewn basgedaid o sbarion lledr, ac ymroi i weithio gyda'm llyfrau gan ddal ati, hynny fedrwn i, trwy'r oriau man tan y bore.

Dyna chi,' meddai, gan sodro ei fwg coffi wrth ochr ei hun hi.

Plannodd ei llaw i ganol y jwg chwart ac yna sodro'r dannedd yn ei cheg; gwthiodd ei thraed i'w slipars rywsut-rywsut a'i ffwtwocio hi am y ffenestr.