Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

soffa

soffa

Agorodd Mary'r drws iddo ymhen hir a hwyr gan wneud esgus ei bod wedi pendwmpian ar y soffa a'i bod yn rhaid bod y glicied wedi dod i lawr ar ddamwain.

Byddem yn eistedd mewn rhes ar y soffa fel diffinyddion mewn llys.

Ar ei gais, tynnais fy nghrys, plygu'n ddwbl dros ymyl y soffa, ac aros felly yn fy nghwman i ddisgwyl y nodwydd.

"O, rydw i wedi blino," meddai hi ac eistedd i lawr ar y soffa.

Pan ddaethom gyntaf oll i Shamshuipo fe roddwyd y tri swyddog uchaf, y Cyrnol, y Major a Chapten fy nghatrawd i, mewn ystafell ar wahân, ac yn yr ystafell honno roedd soffa go fawr.

Fe steddes i yn y gader am funud, yn union ar ol rhoi baich o goed yng nghefen y grat i sychu, ond fe ofynnodd ifi godi ar unwaith a dod i iste ati hi ar y soffa.

Gall dadlau fel hyn am bris siwt neu soffa godi cywilydd arnoch chi weithiau, os yr ydych yn digwydd bod efo fo, ond dros y blynyddoedd arbedodd bunnoedd i mi wrth fargeinio drosof.

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Fe fydda i'n ddigon cysurus yn cysgu ar y soffa.

Dechreuodd ffidlan efo'i gôt o dan bentwr o anoracs, a oedd wedi eutaflu yn blith drafflith ar y soffa.

Roedd ei daid yn eistedd ar y soffa pan aeth i mewn.

"Mae Stiwart wedi'n gwadd i gael cinio gydag e a Meri fory, os nad oes gennych chi wrthwynebiad," meddai Tom, cyn paratoi at fynd i'w wely - neu 'n hytrach, ei soffa.

Sut bynnag, pan ddaeth yr amser i symud yr oedd y Capten yn un o'r rhai a oedd i ddod gyda ni, ac wrth gwrs rhoesai ei fryd ar fynd â'r soffa gydag ef.

Ond gallwn innau, hyd yn oed, fforddio soffa ac, fel y Myrc yn y stori, yr oedd gan honno hefyd bedair olwyn pe byddai hynny o ots i neb.

Ta beth, i berfeddion y soffa y crwydrodd y bochdew bach er wyddem ni ddim nes inni ei glywed yn dechrau cnoi a chrafu ei ffordd allan.

Rhag ofn i chi fynd i guddio y tu ôl i'r soffa a chymryd arnoch bod yna neb adre, fe fyddai'n werth cofio eich bod chi'r un mor debygol o ganfor menyw dal, ffasiynol ei gwisg, â chrop o wallt gwyn, yn sefyll ar y rhiniog â chriw o Dystion Jehovah.

A dydi beth sy'n digwydd ar deledu - a rowndabouts - yn ddim byd o'i gymharu â be sy'n digwydd ar y soffa ac ar y ciarpad o'i blaen hi os ydi'r llythyra i'r cylchgrawn merchaid sydd yn syrjeri'r Dr Parry bach del na i'w coelio.

Mewn ystafell fechan (oedd yn cynnwys soffa, teledu, cyfrifiadur.... fel ystafell fyw fechan go iawn) cael ffrwythau i'w bwyta a diod o de.

Gwelodd y Capten ei gyfle a meddiannodd y soffa iddo'i hun yn wely tra gorfu i'r Major a'r Cyrnol gysgu ar welyau plyg, nid mor gyfforddus o'r hanner.

Aiff Trefor a'i dri mab gartref at eu mam, Nia, a'i hail ŵr, Dave: lleolir eu tŷ mewn rhes o dai ar fryn serth sy'n anelu am i lawr; mae Dave yn ddi-waith a dygir y fideo a'r soffa oddi arnynt fesul un.