Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sosban

sosban

I'w coginio'n gynt a chadw mwy fyth o'r maeth gellir torri'r betys amrwd yn stribedi mân, eu rhoi mewn sosban gyda'r mymryn lleiaf o ddŵr a llond llwy fwrdd o olew'r olewydden neu flodyn yr haul.

Wedi blynyddoedd o fywyd trefol collodd JR lawer o'i archwaeth at fwyd cyntefig fel stwnsh rwdan a pheth dieithr iddo bellach oedd gweld sosban ddu wedi ei gorseddu ar ganol bwrdd y gegin, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd sylwi ar Hywal y mab yn pigo'i drwyn bobo yn ail cegiad.

I wneud te betys o'r dail, maler yn fân tua dwy gwpanaid o'r dail eu rhoi mewn sosban efo wyth cwpanaid o ddŵr a berwi am un munud.

Roedd y sosban tships ar dân, a honno'n chwydu mwg a fflame dros y lle i gyd.

Ond mi wnês un camgymeriad--fe adawes y sosban tships yn y man, ar y cylch gwresogi.

Cydies yn y sosban, a honno'n poeri saim dros y carped a'r llawr, a'i thaflu allan drwy ddrws y cefn; yna rhwygo'r llenni oddi ar y ffenest, a'u stwffio o dan y tap dwr.

Mi wn lle mae'r Sosban Fawr a'r Sosban Fach a gwn hefyd sut i ddilyn cyrn yr Arad i ganfod Seren y Gogledd, a dyna'r cwbl.

Bwrw gwawd, canu 'Sosban Fach' a sefyll eu tir a wnaeth y bobl ond llwyddodd yr heddlu i agor y gatiau yn y man.