Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sownd

sownd

Decllath i ffwrdd, rwy'n gweld bachgen bach â choesau cam yn cydio'n sownd wrth sgert ei fam.

Mae pawb yn sownd wrth 'i set deledu y dyddia yma a neb isio gweld pobl yn galw.

Dim ond y ffaith eu bod yn sownd yn eu seddau ac allan o gyrraedd ei gilydd a'u cadwodd rhag ymladd yn gorfforol, ac oni bai ei bod yn teithio ar raddfa o saith deg milltir yr awr ar draffordd brysur byddai Carol wedi troi rownd yn ei sedd ac ysgwyd y ddau ohonynt - er na fu iddi erioed wneud y fath beth o'r blaen.

Cawsant drafferth fawr i'w gael allan o'r awyren gan fod ei goesau'n sownd.

Wedi cymryd yr arian glas - a honno'n sownd yn siswrn ei geg - y bachiad sicraf un!

Yn sownd, co bach, dan glo.

Maent yn penderfynu y tro hwn i gael twll ar ganol y graig; felly mae'r ddau dyllwr yn mynd i ben y graig hefo dwy raff fawr, ac yn eu rhoi'n sownd ar y top hefo cerrig, wedyn mae un o'r dynion yn mynd i lawr y graig ar hyd a rhaff i'r lle y maent wedi bwriadu tyllu, ac yn gwneud dau dwll bach yn y graig rhyw lathen oddi wrth ei gilydd.

Dro arall - wam - ac y mae'r sewin yn sownd a'r pwll yn drochion i gyd!

Gosodwch wahanol fwydydd ar gaeadau metel wedi eu rhoi'n sownd mewn darn o bren ar ben postyn.

Ond roedd ei goes dde yn sownd, fel asgwrn yng ngheg ci.

'Mae dy fachyn di'n sownd mewn brigyn neu garreg o dan y dw^r, fe gei di weld!

Wele'r dadleuon yn sownd yn y tywod ers i Thomas Charles ysgrifennu'r Welsh Methodists Vindicated - yr Eglwys Sefydledig yn amddiffyn ei safle drwy gyhuddo'r radicaliaid o ffurfio clymblaid annuwiol gyda'r Pabyddion er mwyn disodli'r wladwriaeth ei hun.

"Mae'n rhaid i mi beidio â'i gollwng," meddyliodd, gan barhau i gael ei lusgo drwy'r tonnau a chan gofio'r tro hwnnw y syrthiodd oddi ar ei geffyl ers talwm a chael ei dynnu ar hyd y ddaear gydag un droed yn sownd yn y warthol.

Argian, dwi wedi synnu gweld gymaint o dai a'r rheini'n sownd yn 'i gilydd i gyd.

Cymerwch ofal." Clymodd Douglas y rhaff o ddillad yn sownd wrth un o goesau ei wely pan oedd pob man yn dawel y noson honno.

Dim pigau pin yn sownd yn y carped tan fis Mai; dim rhochian blynyddol Modryb Matilda ar ôl joch o port; dim crensian papur lapio'n slei bach i deimlo'r anrheg; dim anghofio codi am chwech y bore i roi'r twrci yn y popty; dim Ryan yn canu "Ai hyn yw'r Nadolig pwy a žyr?" ar bob yn ail raglen radio; dim chwilota mewn hen gist am goron Caspar neu am ddoli go lân i orwedd yn y preseb; dim 'Dolig!

Roeddan ni'n medru codi'i sgert a'i phais i fyny mor handi, a'u rhoi nhw'n sownd wrth 'i gwasg, ac mi oedd hi'n medru dod o hyd i'r cocos mor gyflym â gwylan fôr, hefo'r hen lwy bach bren 'na Mi gawson ni andros o hwyl yn hel, er na ddaru ni ddim cael gymaint â hi.

Tra'r oeddwn yno gryn deirawr un pnawn yr oedd cwsmer arall yn cysgu'n sownd yn ei gadair gydol yr amser.

Y peth nesaf a wyddai roedd o ar ei fol a phwysau mawr yn ei ddal yn sownd.

Tua chanllath oddi yno bu'n rhaid i'n bws stopio am fod rhes o geir yn sownd yn y mwd ar y ffordd.

Gyda llaw, ydi Morus y bwtlar yn 'i bantri?' 'Sydna yn deud bod o 'di picio i Blas Llandygwnning hefo'i fasgiad wellt, ar ryw negas neu'i gilydd.' 'Bicia inna i'w bantri ynta i nôl gwydriad bach o'r rum hwnnw ddaeth i Borth Ceiriad pan aeth llong 'rhen Gaptan Huws Barrach Fawr yn sownd yn y creigia.

Ceisiodd ei orau i gael gafael yn y darn o haearn a ddaliai'r cloc yn sownd wrth ochr y llong, ond doedd ei feddwl ddim yn glir gan ei fod mor gysglyd, a chyn iddo sylweddoli beth oedd yn digwydd, roedd wedi disgyn i'r dŵr y tu ôl i'r llong!