Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

stabal

stabal

Mae'r cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf - gan gynnwys rhyddhau casetiau gan Datblygu, Diffiniad, Aros Mae a Steve Eaves, yn ogystal â chasgliad amlgyfrannog i ddathlu'r pump oed - yn awgrymu y bydd y cwmni hwn yn parhau â'u gwaith da yn creu stabal gynhwysfawr o artistiaid mwyaf blaengar y byd roc Cymraeg.

Oedd, roedd hi'n tynnu at hanner nos erbyn hynny ac felly mae'n rhaid mai'r asyn a'r ych oedd yn sgwrsio ym mhen arall y stabal!

Byddai gosod bedwen wedi ei haddurno â rhubannau coch a gwyn i bwyso yn erbyn drws y stabal yn amddiffyn y ceffylau rhag eu rheibio.

Cyn manylu ar natur y cwricwlwm hwnnw, dylid cyfeirio at ddogfen mwyaf diweddar o stabal Cyngor Cwricwlwm Cymru Agweddau ar Addysg Gynradd yng Nghymru.

"Y cyfan rydw i ei angen yn awr ydi cornel fach glyd i roi fy mhen i lawr." "Mae'na le yn y stabal," meddai'r tafarnwr yn gyndyn, ond heb feiddio edrych ym myw llygaid tywyll y cardotyn.

Camodd drwy fwlch yn y clawdd drain yn gap stabal i gyd, a hen sach dros ei war.

Aeth i'r stabal a chwalu dipyn o wellt glân mewn cornel yno.

Cysgu'n y llofft stabal oedd y gweision un noson ychydig wedyn, pan ddeffrowyd pawb ohonynt gan sūn ceffylau'n carlamu i'r iard, ac yna sūn ratchet brêc yn cael ei dynnu.

Yr oedd gwastad y buarth yn is na gwastad y stryd, ac yr oedd o dan y ddau dŷ seleri a ffenestri ganddynt yn edrych dros y buarth i gyfeiriad y stabal.

Rhoddodd Elis Robaitsh eitha slaes iddo hefo'r cap stabal a llithrodd Pero dros ben yr olwyn i'r ffos.

Roedd y tafarnwr wedi ei ddanfon i'r stabal ac roedd wedi gweld yng ngolau'r gannwyll nad oedd yr un dyn byw arall yno heblaw amdano ef.

Mi roeddwn i wrth fy modd pan oedd hi'n bwrw glaw, gan y byddai nhad wedyn yn gweithio yn y stabal, neu'r tŷ gwair, neu'r beudy.

Ond yn troi'n win blasus - o brynu potelaid gan un o'r hen ddynion wyneb-lledr a mwstas Stalinaidd, gwyn, a chap stabal am ei ben, sy'n eistedd yng nghysgod olewydd efo rhesiad o boteli, heb labelau, ar wal wen isel ger y traeth.

bywyd ac amryliw batrymau'r bywyd hwnnw - diwrnod lladd mochyn, diwrnod dyrnu, diwrnod cneifio, byd torrwyr cerrig, carega, cymortha, llofft stabal, - byd y ferm, y tir a'r tywydd...

Credaf mai ein tŷ ni a'r tŷ nesaf i lawr oedd y tai hynaf yn y stryd, a'u cefnau'n wynebu ar ryw fuarth a stabal ar gyfer hanner dwsin o geffylau.

Yn ôl at y stabal â fo, gan fynd heibio lle'r oedd y coitsmon yn arfer byw.

Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.

Yn ôl y chwedl, am hanner nos ar y noson cyn y Nadolig, mae'r anifeiliaid mud yn y stabal yn medru siarad mewn lleisiau dynol am ychydig bach o amser.