Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

stabl

stabl

Gwaeddodd ar y dyn oedd yn canlyn ceffyl: "Tyrd â'r ceffyl i symud rhain!" Aeth hwnnw i'r stabl oedd yn weddol agos, ac yna dod yn ei ôl heb y ceffyl.

Bu'n rhaid iddo yntau gysgu noson yn llofft stabl y gwesty cyn troi'n ôl.

Teimlais yn falch pan alwodd fi i'r stabl ryw fore Sul a gofyn imi a fyddwn yn sgrifennydd iddo.

Roedd y ddau wedi cuddio'n dawel yn y gwait yn y stabl, ac roedd he bron yn hanner nos pan sylweddolodd y rhieni beth oedd yn digwydd.

Diolchais i'r nefoedd nad oeddwn yn reidio'n aml i'r stabl honno ac mai job diwrnod oedd hon am fod Steve Millace, y joci arferol, wedi mynd i angladd ei dad.

Gwyddent yn iawn beth oedd ystyr y corn yn canu i ddweud fod diwrnod gwaith ar ben, ac mae cof o hyd am geffyl a weithiai yn Chwareli'r Oakeley, pan ollyngid ef o'r tresi ar ganiad y corn, yn mynd ar hyd rhan o'r chwarel a thrwy y Lefal Galad, yna dilyn Llwybr y Ceffylau oedd yn mynd dros geg y Twnnel Mawr, i lawr i'r ffordd fawr ac i'w stabl yn y Rhiw ac at y minsiar heb neb wrth ei ben i'r dywys.

Y mae cenhedlaeth ohonom yn fyw heddiw sy'n cofio cyfnod cannwyll yn y lloft, lamp olew yn y gegin, mawn yn y grat, ty bach ym mhen yr ardd, ceffyl yn y stabl, a siop bob peth yn y pentref.

Wrth ddod o'r twll (sef y tan ddaear) un bore ychydig cyn amser cinio, trodd y prif oruchwyliwr i'r stabl ato a gofyn: "Sut fwyd wyt ti'n 'i roi i'r ceffyl ma?" Atebodd hwnnw: "Tebyg i fwyd labrwr." Cymeriad arall oedd Wil Lloyd Penbryn ac ar un adeg yn gweithio hefo dau o'i geffylau yn un o chwareli'r ardal.

Stopiodd y ceffyl a gwrthod â gweithio dim mwy, yn disgwyl cael mynd i'r stabl am geirch.

Cais llawn - newid defnydd o stabl/tŷ coets i dŷ annedd - dim gwrthwynebiad os oedd angen lleol.