Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

stad

stad

Gan fod llawer o'r offer a ddefnyddir i wneud arolwg tanfor ar hyn o bryd yn ddigon anfoddhaol, gellir dweud fod archaeoleg tanddwr mewn stad o 'anwybodaeth soffistigedig' - soffistigedig gan fod llawer o'r archaeolegwyr modern yn bustachu gyda phroblemau ei lleihau.

Yn gyntaf, beth yn union yw'r amodau sy'n angenrheidiol i greu bywyd ac yna gallu ei gynnal hyd at stad o wareiddiad uwchraddol?

Yn 1988 symudodd hi a'i merch, Kirstie, i fyw ar stad y cyngor yn Maes y Deri, a daeth Mrs Mac yn rhan o chwedloniaeth Cwmderi.

'Pa ryfedd', meddai Wiliam Llŷn am ddisgynyddiaeth hynod un o'i noddwyr, 'fod y profiad, ag urddas Duw, yn gwreiddio stad'.

Mi fydd yr wyl yn cael ei chynnal yng ngerddi Stad y Faenol ger Bangor dros benwythnos Gwyl y Banc ddiwedd Awst.

Os yw bywyd ar unrhyw blaned i ddatblygu hyd at stad uwchddiwylliadol yna mae'n rhaid i'r blaned honno ymateb i dri o ofynion o leiaf; rhaid i'w chyfansoddiad cemegol fod yn debyg i un y Ddaear; rhaid i'w phellter o'i haul sicrhau bod tymheredd ei harwyneb rywle rhwng rhewbwynt a berwbwynt dwr; rhaid i'w haul fodoli am ddigon o amser er mwyn galluogi bywyd deallgar i ddatblygu, sef rhyw ychydig o filoedd o filiynau o flynyddoedd.

"'Fyddi di ddim yn teimlo weithia y buasai'n dda gen ti petasai Rhagluniaeth wedi gadael llonydd iti yn dy stad gyntefig - i fwynhau dy hun wrth dy gynffon ar frigau'r coed?" "Cynffon!

Wn i ddim os gwyddoch chi am Stad Bryn Glas o gwbwl ond -(Torri ar ei thraws ei hun) Mae'n ddrwg gen i, rw'i'n crwydro unwaith eto.

Nid rhydd-ddeiliaid mohonom yn y byd ond tenantiaid a'n braint yw trosglwyddo'r stad yn iach i'r sawl a fydd yn ein dilyn yma.

Daeth haul ar fryn gan i Myrddin Morgan o gwmni MLM glywed am y broblem, a/ c yn yr wythnose hynny, roedd y cwmni yn cwbwlhau adeiladu stad fach o dai unllawr yng Nglan-y-fferi.

Cyrhaeddodd Kath Cwmderi yn 1993 pan symudodd o Lanarthur i fyw ar Stad y Mynach.

"Mi fyddwn ni'n defnyddio adeiladau fferm Y Faenol fel stad o weithdai diwydiannol," meddai Alun Ffred Jones, cynhyrchydd y gyfres.

Hysbyswyd bod yna gais cynllunio am ugain o fythynod ar Stad y Tyddyn ond cytynwyd i'w ohirio tan y cyfarfod nesaf gan fod galw am lawer iawn mwy o fanylion.

'Ta waeth, ar y diwrnod arbennig yma, ddês i adre o'r ysgol - hwn ydi'n nhy fi, gyda llaw - 'Heulwal', Stad Bryn Glas - jest heibio'r groesffordd a chyn cyrraedd y groesfan zebra.

Dociau newydd Caerdydd oedd y dynfa a 'drychwch ar eu stad nhw heddi a'n stad ninnau pe dôi hi i hynny.

Mrs Trench oedd ei henw, sef gwraig Arolygwr Stad Arglwydd Penrhyn.

Yn aros iddi ymddangos bob hyn a hyn wrth basio bylchoedd rhwng y tai ar ein stad ni.

Ffurfwyd dwy gymdeithas tenantiaid, un ym Mhenucheldre, Caergybi, a'r llall ar Stad Ty Hen, Llangefni.

Stad Castellor ddamwain go erchyll tra wrth ei waith yn ddiweddar ond mae'n dda gennym ddweud ei fod ar wella erbyn hyn.

Roedd hwn yn ateb dibenion y fasnach yn well gyda doc mewnol a gatiau trymion i gronni'r dþr fel bod llong yn medru cael ei llwytho beth bynnag oedd stad y llanw a'r offer diweddaraf i hwyluso'r gwaith o drafod a llwytho'r llongau.

Syniad eithaf am eu stad bydol efallai.

Cafodd dipyn o drafferth efo drws y garej yn gwrthod cau - roedd o wedi sôn droeon wrth y giaffar ac wrth Mrs Rowlands am gyflwr y clo yna - ac felly roedd hi bron yn bum munud ar hugain i wyth pan drodd o'r gornel i mewn i stad Llys y Gwynt ac roedd Elfed wedi gwylltio braidd efo Elsie Williams a'i chriw.

Os derbynnir y ddadl honno, rhaid derbyn yn ogystal mai pris mynediad ar y telerau hynny oedd stad o israddolder andwyol sy'n dal i grawnu yn ein bywyd cenedlaethol gan 'dorri mas yn achlysurol yn gornwydydd piws.

Fe dreulies i lawer o'm amser yn ymarfer ar y traeth bach oedd yr ochor arall i'r hewl i stad Glan-yr-ystrad, ac wrth gwrs, roedd un o'm ffrindie gore, Wyndham Morgan, a'i wraig Millie, yn byw ar yr un stad--ynte yn chware erbyn hyn i'r tîm ifanc lleol.

Deddfir "Na byddo iddynt bri%odi un digred, na dilyn erferion anllad llygredig y byd yn eu rhag-gyfeillach, ac yn eu mynediad i'r 'stad briodasol".

Ond fyddai Bilo a'i fêts ddim yn clywed sŵn y moto beic, diolch am hynny; fe'i gadawyd wrth y moniwment mewn llecyn parcio o flaen y siopau, ac ar ôl cloi'r gadwen am yr olwyn flaen, cerddodd efo Cen i gyfeiriad stad o dai lle'r oedd cartref a garej Bilo.

Byddai'n ddigon hawdd imi fod yn fodlon ar fy stad segur a stelcian yn fy nghadair ddydd a nos.

Troir teulu Luned o'r stad y buont unwaith yn berchnogion cyfreithlon arni, a phenderfyna hi hwylio i America gyda hwy.

Nid oedd Cochyn y plismon i'w weld yn unlle, a meddyliai Wyn ei fod yn dal i fod ar drywydd y lleidr cathod gan fod Mari Ddu, un arall o gathod y stad dai, wedi diflannu yn ystod y nos.

Mae'r datblygiad yn ymestyn dros 400 acer ar dir stad Neuadd Middelton.

Roedd hwn yn ateb dibenion y fasnach yn well gyda doc mewnol a gatiau trymion i gronni'r dŵr fel bod llong yn medru cael ei llwytho beth bynnag oedd stad y llanw a'r offer diweddaraf i hwyluso'r gwaith o drafod a llwytho'r llongau.

Aeth i'r neuadd a sefyll am ychydig fel meistres y stad o flaen y drws bychan annymunol i roi ar ddeall iddo ef ac iddi'i hun nad oedd arni hi mo'i ofn.

Hanes stad Nanteos ger Aberystwyth.

Yn ogystal, cyflogodd William Jones, Talybont i wneud cynllun manwl o'r Plas a'i erddi, i gofnodi enw pob fferm a oedd yn perthyn i'r Stad ac ysgrifennu yn y gyfrol enwau pob cae a berthynai i'r ffermydd hynny.

Droeon tra'n teithio yn fy nghar (piws!) ar hyd y ffordd brysur rhwng Caernarfon a Bangor yn y mis bach, gwelais sguthannod yn gelain ar y lôn wrth droed wal fawr Stad y Faenol.