Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

stadau

stadau

Peryglwyd nifer o ysgolion oherwydd bod teuluoedd ifanc wedi gorfod symud o bentrefi at stadau tai cyngor yn y trefi neu i chwilio am waith.

Yn Huntsville, Alabama, y gwelodd hen stadau'r meistri cotwm, y grym gwleidyddol ac ariannol y tu cefn i'r gwrthryfel.

Ond llawer mwy difrifol na'r ddeubeth hyn oedd fod Evan Meredith yn amau fod i Forgan ran mewn dwyn achos o odineb yn ei erbyn yn llys yr esgob yn Llanelwy, er bod Morgan yn gwadu hynny; a hefyd y ffaith ddiymwad fod Morgan wedi helpu i sicrhay llaw aeres Maesmochnant, un o stadau cyfoethocaf y gymdogaeth, ar gyfer Robert Wynne, mab ei noddwr, Maurice Wynn o Wedir, er bod Edward Morris hefyd a'i lygad arni.

Buasai i lawr, medde fe, yn ardal y Bae, y Tiger Bay oedd hwnnw, i weld hen fêts a ddalodd eu tir ar y cyrion pan fynnai'r datblygwyr a'r cynllunwyr eu gwasgaru a'u hailgartrefu fan hyn a fan draw ar stadau o gwmpas y ddinas.

Mae cartrefi mewn llawer o'n hardaloedd yn troi yn dai haf ac yn dai i bobl ymddeol; codir stadau mawr mewn llawer pentref ar gyfer pobl o'r tu allan. Mae ieuenctid ein gwlad yn cael eu cyflyrru i dderbyn mai gadael eu bro eu hunain i chwilio am waith yw eu tynged.

Stadau mawr o dai, a dal i gynyddu mae y tai i bob cyfeiriad, ac mae mwy o Saesneg yn cael ei siarad yno na Chymraeg.