Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

staen

staen

Yr oedd yn debyg i amffitheatre enfawr, y gwaliau'n disgyn yn serth i grombil y mynydd, a'r llawr yn bentwr o gerrig, rhai ohonynt yn dwyn staen goch a melyn lle'r oedd nwyon cuddiedig Vesuvius wedi bod yn ffrwydro'n ddiweddar.

Mae rhai yn llwyddo, ond caiff eraill eu dal am fod arlliw o'r staen i'w weld o dan ewinedd eu bysedd.

Cysgoda drosom; gwarchod ni; nertha ni pan fo gwendid yn ein llethu; arwain ni pan awn ar ddisberod; adnewydda'n gobaith pan fyddwn yn digalonni; eneinia ni â'th faddeuant i'n glanhau oddi wrth staen ein pechod.

Y tu allan i'r corlannau, mae rhai mamau'n ceisio golchi'r staen oddi ar ddwylo eu plant - er mwyn mynd yn ôl am docyn bwyd arall.

Mewn meddygaeth, gellir trin staen 'gwin port' ar y croen drwy diwnio laser alexandrite fel bod y staen yn amsugno'r goleuni ac felly'n cael ei ddifrodi.

Cafodd Bowser y gair o fod yn gymydog caredig a rhadlon ond tuag at ei deulu mynnodd ddisgyblaeth haearnaidd ac erys hanes y driniaeth a gafodd Elisabeth ganddo yn staen annileadwy ar ei gymeriad o hyd.