Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

stiwdio

stiwdio

Roedd Mr Godfrey wedi addasu adeilad pren ar ei dir ym Moelfre, ger Abergele, i fod yn stiwdio gerdd gan gynnwys rhoi defnydd i atal swn ynddo.

O'r diwedd fe ddaeth canlyniadau Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru - ac yr oedd hi'n noson wych yn stiwdio deledu Barcud yng Nghaernarfon nos Sadwrn diwethaf.

Ar ôl dysgu am seintiau Ynys Llanddwyn a sylwi ar fanylder darluniau botaneg y chwiorydd Massey, denir yr ymwelydd i mewn i stiwdio Charles Tunnicliffe ym Malltraeth.

O stiwdio Barcud, Caernarfon y bydd Nia a Rhodri yn cyflwyno holl fwrlwm y noson fawr gyda chynulleidfa fyw, adloniant a wynebau adnabyddus yn cymryd rhan ac yn ymuno yn yr hwyl yn ystod y rhaglen.

Mi fydd yna £1000 syn rhodd gan y Clwb a sesiynau stiwdio ar raglen Gang Bangor a Radio One Session In Wales yn wobr i'r grwp buddugol.

Fodd bynnag, bydd arian yn cael ei wario ar amser stiwdio hefyd - fel yn achos Geraint Jarman a Steve Eaves y llynedd.

Yn ôl ei dystiolaeth ei hun, mae wedi cael ei ysbrydoli yn ei waith gan ddylanwad Artistiaid Newlyn yn ogystal â gan ymdrafodaeth gyda chyd-artistiaid yn stiwdio DAI

Dychwelodd adref i Fynydd Mwyn, troi llofft allan yn stiwdio, ac yno y bu yn paentio am y chwarter canrif nesaf.

Y bwriad yw chwarae cyfres o gigs cyn mynd i'r stiwdio, er mwyn gweld ymateb y cynulleidfaoedd i'r caneuon sydd wedi cael eu sgwennu yn ystod y flwyddyn.

Yn ogystal a chwaraer gigs uchod bydd Anweledig yn parhau gyda'r gwaith o recordio albym newydd yn stiwdio Sain gyda'r gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.

Wrth ddathlu pen blwydd stiwdio Bangor yn hanner cant oed, cofio yr ydym am gyfraniad Bangor i un arall o'r sefydliadau hanfodol hynny, sef cyfundrefn radio a theledu cenedlaethol.

Fe ddaeth y newyddion y bydd Texas Radio Band, grwp a enillodd y wobr am Grwp Newydd Gorau 99 yng noson wobrwyo RAP Radio Cymru, y byddan nhw'n mynd i stiwdio Fflach yr wythnos yma i gychwyn recordio Ep chwe chan fydd allan ar label RASP yn y dyfodol agos.

Cyflwynodd Newyddion raglenni arbennig ar yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf o stiwdio arbennig yn Neuadd y Ddinas, tra bu'r Gohebydd Ewrop Bethan Kilfoil yn cyfrannu'n fyw y tu allan i'r Swyddfa Gymreig.

Mae system meiciau cyswllt newydd a chamerâu sgrîn lydan wedi eu gosod yn stiwdio C1.

Mae ymrwymiad y darlledwr i newyddion yn parhau i fod yr un mor gadarn ag erioed (ystafell newyddion BBC Cymru yw'r ail fwyaf y tu allan i Lundain) a gweddnewidiwyd y ddwy brif raglen newyddion teledu, Wales Today a Newyddion, gyda set stiwdio newydd, teitlau agoriadol a cherddoriaeth newydd sbon.

Yn ogystal â'r pump yma mae 'na lwyth o bobl yn helpu i wneud yn siwr bod Ffeil yn eich cyrraedd chi bob wythnos - pobl fel y cyfarwyddwr a'r golygydd VT, pobl sy'n gwneud yn siwr bod y rhaglen yn cadw at amser, y criwiau camera a'r criw sy'n gweithio yn y stiwdio.

Ma nhw di bod wrthin ddiwyd yn hyrwyddor mini-albym newydd, ac yng nghanol y gigs i gyd, daeth y bois i mewn i'r stiwdio yma ym Mrynmeirion i recordio sesiwn acwstic 3 cân - ac maen swnion WYCH. mae'r traciau i'w clywed ar Gang Bangor gydol yr wythnos, a bydd cyfle i ennill copiau o'r CD wedi eu harwyddo.

Mae y Gorkys yn ôl yn y stiwdio yn gweithio ar eu halbym hir nesa ar gyfer y flwyddyn 2001 pan fyddan nhw'n dathlu deng mlynedd eu bodolaeth.

Dangosodd tîm cynhyrchu adloniant BBC Cymru ei allu i gynhyrchu sioe stiwdio gerddoriaeth a sgwrs gyda seren fawr o fyd y theatr gerddorol.

Yn nghwrs y blynyddoedd, fel nifer o gyfeillion eraill, rwyf wedi recordio sawl llyfr ar gyfer Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn y stiwdio fach ym Mangor.

Dyma'r project darlledu allanol mwyaf uchelgeisiol i'w drefnu erioed, gyda phob rhaglen newyddion a materion cyfoes BBC Radio Wales yn cynhyrchu darllediadau arbennig o ddwy stiwdio symudol yng Nghanolfan Ddinesig Caerdydd.

Ar ôl cael ei ddychryn wrth gyflwyno'i raglen gyntaf ar deledu aeth un o newyddiadurwyr mwyaf gwylaidd ein cyfnod i olygu newyddion i'r BBC Yn fuan wedi cyrraedd yno, ac yntau'r prynhawn hwnnw wedi bod yn paratoi'r newyddion Saesneg, aeth i'r stiwdio sain gyda bwletin cyflawn dan ei gesail i ganfod nad oedd y darllenydd arferol wedi cyrraedd.

Cafwyd cadarnhad fod MC Mabon aka Gruff Meredith yn ôl yn y stiwdio yn gweithio ar fwy o gynnyrch yn barod a hynny prin fisoedd wedi rhyddhau ei albym gynta lwyddiannus.

Nid yw arddull stiwdio y cyfnod a chyfyngder y set yn caniatau i hyn ddod trosodd mor glir.

Y golygydd hefyd sy'n gyfrifol am olygu'r eitemau ffilm a anfonir i'r stiwdio bob dydd gan ohebwyr mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Recordiwyd peth o'r mini albym yn Stiwdio Ofn ar gweddill yn stiwidio Rockfield.

Yr oedd Sam Jones yn bresennol yn y stiwdio gyda'r Welsh Wizard a oedd, erbyn hynny, yn tynnu at derfyn ei yrfa ddaearol.

Yn fwriadol, aethpwyd â Talkback allan o'r stiwdio ac o'r herwydd roedd yn rhaglen hyblyg a allai ymateb i bynciau llosg y dydd ar amrantiad.

Amlygwyd ei hymrwymiad i gynnwys Cymru gyfan pan agorwyd stiwdio newydd y BBC yn Wrecsam, lle mae gan y rhaglen bellach ei gohebydd ei hun.

Ni fydd wythnos waith arferol yr Artist yn fwy na phum niwrnod mewn saith nac yn fwy na deugain awr ond na weithir llai na phedair na mwy na deg awr mewn diwrnod heb gyfrif awr o doriad pryd bwyd a hyd at awr o deithio i neu o leoliad/stiwdio.

Y cyhoeddwr y noson honno (yn y stiwdio gyda'r cast gan mai darllediad byw oedd hi) ydoedd Sam Jones.

Yn y stiwdio ond gan fwyaf yn nhai pobl eraill mae hyn yn digwyddi.

Yr oedd Rhanbarth Cymru yn bod bellach a sefydlwyd stiwdio ym Mangor er hwylustod i ddarlledwyr o'r gogledd fel yr oedd stiwdio Abertawe eisoes yn gwasanaethu'r gorllewin.

Er mai rhan o'r rhwydwaith cenedlaethol Cymreig a Chymraeg yw stiwdio'r gogledd, bu yma erioed rhyw ymdeimlad o arwahanrwydd ac annibyniaeth.

Wedyn tro o gwmpas y BBC - stiwdio newyddion, BBC Cymru'r Byd, adran is-deitlo gyda Terry Dyddgen-Jones, y cynhyrchydd ei hun yn eu harwain o gwmpas Cwm Deri.

Recordiodd y grwp sesiwn acwstig i Gang Bangor rai misoedd yn ôl a chyn bo hir fe gawn ni fwynhau sesiwn stiwdio.

Eisiau mynd i fyd radio a theledu oeddwn i o'r foment es i mewn i'r stiwdio...

Defnyddiodd Sony Stiwdio Radio 1 yng Nghaerdydd i recordio llais Charlotte Church ar gyfer y CD platinwm Voice of an Angel.

Newydd da, bois bach, mae Wili, Billy, Jim a John - yr anhygoel Bois Bach o ardal Crymych, yn dychwelyd i stiwdio Fflach er mwyn recordio CD newydd ar gyfer y Nadolig.

A gwnaeth hynny trwy fynd mor agos at y gynulleidfa ag a oedd yn bosibl, i ffwrdd o'r stiwdio ac allan ymysg y bobl - cynulleidfa o bob oed.

Er enghraifft, drwy gyfrwng ein menter Cynllunio mewn Partneriaeth, mae BBC Cymru wedi gwneud arbedion sylweddol mewn costau stiwdio.

Roedd yn ddiwedd ar gyfnod prysur tu hwnt, o benodi Nick Evans fel Swyddog Comisiynu Choice, adeiladu stiwdio bwrpasol, penodi staff cyflwyno a chynhyrchu a chynllunio rhaglenni hyd at achlysur lansio llwyddiannus BBC CHOICE Wales.