Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

stopio

stopio

Y noson o dan sylw, bu Miss Williams yn hir syllu drwy'r twll yn y blacowt yn ffenestr y llofft ffrynt ar lampau bus Ifan Paraffîn yn dawnsio'u ffordd yn feddw ar hyd Pen Cilan cyn stopio'n stond, ond heb wybod i sicrwydd mai bus oedd yno.

Mi fyddai yna stori ysgafn yn y Cymru'r Plant weithiau, ond prin y byddai hi byth yn ddigon digri i'w hail- adrodd ar y ffordd adre o'r ysgol neu wrth aros iddi stopio bwrw glaw ar bnawn Sadwrn.

Mewn un man yn unig roedd angen rhydio nant a phan fyddai llif rhaid oedd stopio'r cyfan.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Stopio wedyn.

Ond 'na fe, be all e'i wneud yn wyneb eu deddfe Nhw?' Gyda hyn, trodd Mr Williams drwyn y cerbyd i fyny'r rhiw at gartref Dilwyn a bu tawelwch hyd nes iddo stopio y tu allan i ddrws ffrynt Llwyngwern.

Mae pawb yn gwybod yn iawn pryd i stopio yfed - does byth ddim meddwi yn y Wladfa.

Canwo lawr yr afon Oren oedd yn ddymunol, a stopio o bryd i'w gilydd mewn mannau arbennig er mwyn i chi flasu'r gwin.

Os oeddech chi'n cael eich stopio, roeddech chi'n gallu dangos y pass a'r ddamcaniaeth wedyn oedd y byddai hynny'n eich cadw chi rhag cael eich herwgipio.

Gyda cheir yn hongian wrth ei gilydd gerfydd y tyllau lle'r arferai rhwd fod dydy'r heddlu ddim yn debyg o'ch stopio chi i ofyn oes gennych chi yr hyn sy'n cyfateb i MOT.

Gall sgarmes sydd wedi ei stopio, ail-gychwyn - mor belled a bod hynny'n digwydd o fewn pump eiliad.

Synnwyd y a dyma stopio a cherdded heibio'r car tua drws cefn ei gartref.

'Fy stopio am bum diwrnod'.

'Allwn i ddim stopio'n hunan,' meddai Dilwyn yn dawel, 'unwaith roeddwn i wedi dechre.' 'Mae'n dda iawn bod Nic a finne wedi dod 'na 'te.

Eu llosgi'n ulw a'r mwg yn ymlwybro hyd y bryniau fel trafaeliwr angau yn sūn clindarddach y fflamau, nes bod popeth a phobman yn ddu, y tân sy'n llosgi'r cyfan yn fud a'r holl sioe yn stopio'n bwt ym môn y clawdd terfyn.

Yn sydyn dyma'i fam yn stopio ac yn troi ato gan ddweud: '...' .

Heblaw trïo stopio tacsi yn Aberystwyth unwaith efallai... ond stori arall ydi honno.

Daeth i eistedd wrth fy ochr a dywedodd wrthyf y buasai yn hoffi i mi ddweud y frawddeg drosodd a throsodd nes iddi hi fy stopio.

Y chi a'ch sglyfath hwch ddeuda' i.' Fel roedd Ifan Paraffîn yn darfod blagardio rhoddodd y bus dagiad neu ddwy cyn stopio gyda jyrc.

Fentrai e ddim stopio i graffu'n fanwl arnyn nhw, rhag ofn i rywun ei weld a dweud, "Dyna fe'n rhythu, y llo bach, yn chwilio am 'i enw 'to'.

Roedd Land Rover newydd sbon wedi stopio o'i blaen.

Ar y ffordd adref, un diwrnod, dyma yrrwr y bws (a oedd yr adeg honno yn fws gwasanaeth Crosville) yn stopio cyn cyrraedd Ty'n y Coed (ar ffordd Penmachno) ac yn mynd i'r cae i hel myshrwms - a'r plant a'r bobl yn edrych arno heb gwyno dim.

HEULWEN: Mi ddylsen nhw basio cyfreth gwlad 'da dipyn o ddannedd iddi hi i stopio'r fandalieth 'ma unweth ac am byth.

Mae gan yr atomfa hawl i ollwng rhywfaint o sodiwm hypochloreid i'r môr i stopio gwymon a phlanigion dyfu y tu mewn i'r pibellau sy'n cario dwr i'r môr.

Os bydd niwl neu law mân, mi fydda i'n stopio ar ben y mynydd a dangos yr ardal iddynt.

'A finnau hefyd,' meddai Carol, 'ond mae'r botel yn wag a fedr Mam ddim stopio'r car ar y ffordd brysur yma.

Dyna ni'n gwibio heibio Prestatyn heb stopio; heibio i'r Rhyl, Abergele, Bae Colwyn.

Plismon, mewn car neu ar fotobeic, yn goddiweddyd modurwr ac yna'n tynnu i mewn i ochr y ffordd o flaen ei drwyn, gan ei orfodi i stopio.

Gwelais ef a chil fy llygad wrth ei basio, a bu raid i mi stopio'r car, a gyrru'n ol ryw ddeg llath i wneud yn siŵr.

Dwi ddim yn dadlau y dylai arbenigwyr ail-sefydlu stopio dyfeisio pethau ryden ni eu hangen, yn enwedig pan ydym yn gofyn amdanyn nhw.

Roedd hi'n aros yn ei hunfan bob tro roedden nhw'n stopio.

Pan ddown ni i'r stopio nesaf mi awn ni i'r caffi, os ydych chi'n fechgyn da.

Roedd TNS ar y blaen 3 - 2 pan benderfynodd y dyfarnwr stopio'r gêm ar hanner amser y cyfnod ychwanegol oherwydd cyflwr y cae.

O'r diwedd dyma gyrraedd pen stryd y ferch, ac ar ôl stopio, dyma'r gyrrwr yn troi i ddymuno noswaith dda iddi - ond, roedd y sedd yn wag!

Wedi stopio, rhedasai at ymyl y dibyn, ond doedd dim y gallai'i wneud.

Tua chanllath oddi yno bu'n rhaid i'n bws stopio am fod rhes o geir yn sownd yn y mwd ar y ffordd.