Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

strategol

strategol

Ond dywedodd Ethiopia fod eu milwyr wedi chwalu amddiffyn Eritrea a chipio mannau strategol.

Rhoddodd amlinelliad o'r camau a gymerwyd i gwblhau'r gwaith, drwy adrodd bod y cynghorau cymuned yn edrych ar y sefyllfa o fewn eu hardal eu hunain ond bod y cynghorau sir a dosbarth yn edrych ar y sefyllfa strategol i ardal ehangach ac felly bod gwahaniaethau barn yn sicr o ddigwydd.

Bu ffigurau cynulleidfaoedd teledu yn dda yn gyffredinol, gan adlewyrchu gallu cystadleuol cynnyrch BBC Cymru, a thra bo rhywfaint o bryder ynglyn â safle presennol BBC Radio Wales, mae arwyddion bod y penderfyniadau strategol, golygyddol a phroffesiynol cywir yn cael eu gwneud i adfywio'r orsaf.

Byddai gweithgarwch strategol a datblygol PDAG yn cael ei lesteirio.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor fod cyfrifoldeb strategol yr awdurdod addysg lleol am ddarparu a gweinyddu ystod o sefydliadau, gan gynnwys ysgolion penodedig Cymraeg, yn cael ei ddileu a'r cyfrifoldeb yn cael ei roi i gynghor cyllido enwebedig newydd.

Dylai'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi'n egnïol er mwyn sicrhau fod yna strwythur strategol i alluogi Cymru i fanteisio i'r eithaf ar ei chryfderau yn y maes.

Ni ragwelir y bydd swyddogaeth strategol a datblygol gan yr un o'r cynghorau cyllido newydd.

dadlennwyd manylion am y ganolfan addysg busnes a rheolaeth cyfrwng cymraeg pan lansiwyd cynllun strategol ar ei chyfer gan fenter a busnes yn aberystwyth.

Yn anad dim, credai'r gwrthwynebwyr mai amcanion strategol pellgyrhaeddgar a'r angen am gynllun economaidd i ddiogelu marchnadoedd cyfoethog Gorllewin Ewrop ar draul gwledydd tlotaf y byd oedd yn ysbrydoli gwladweinwyr y Gymuned.

Ymrwymiad i sicrhau fod yr Awdurdod yn parhau i gyflawni ei rôocirc;l statudol o oruchwylio a rheoleiddio S4C fel darlledwr, gan gymryd ystyriaeth lawn o anghenion a dyheuadau gwylwyr S4C wrth osod cyfeiriad strategol a blaenoriaethu.

Mae goblygiadau strategol ar gyfer datblygu gwasanaethau addysg y BBC, a rhaid i unrhyw berthynas gyda'r Brifysgol Diwydiant ystyried anghenion penodol Cymru.

Mae gan y BBC gyfrifoldeb i ehangu sylfaen ei wasanaethau hefyd, a thrwy sylfaen mwy strategol y gall rhaglenni BBC Cymru barhau i ddenu gwylwyr a gwrandawyr.

Ond ein hargymhelliad cryf i lywodraethwyr yw y dylid trefnu popeth posibl - gan gynnwys pob cynllunio strategol - ar lefel clwstwr o ysgolion.

Mae cyflawni'r rhain yn sail i holl amcanion strategol hir dymor y Bwrdd.

Mae'r strategaeth felly yn symbol o'r consensws newydd sy'n bodoli ym myd busnes a datblygu economaidd yng Nghymru ac yn Ewrop ac sy'n anwybyddu'r hen wrthgyferbyniad rhwng y 'Wladwriaeth' a'r 'Farchnad' a lywiodd gymaint o'r trafod yn yr wythdegau, a hynny trwy osod nod strategol sy'n ymgais i gyfuno buddiannau pawb yn y gymdeithas ar lefel ranbarthol.

Fe ddylai'r Gymraeg fod ymhlith yr ieithoedd hynny sydd yn gallu dal eu tir ac estyn allan, ond, heb seiliau cadarn a chynllunio bwriadus a strategol, wnaiff hyn ddim digwydd.

Er bod diffiniadau statudol o'r term anghenion arbennig ar gael, mae ehangder y grp, amrywiaeth yr anghenion ac amlder ymddangosiad y gwahanol anghenion yn arwain at anhawsterau mawr wrth geisio gynllunio'n strategol.

Yn nhermau strategol y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru byddai hyn yn "YCHWANEGU BLYNYDDOEDD AT FYWYD".

Mewn ardaloedd eraill, megis cymoedd y de lle mae'r ddarpariaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, gellir rhagweld y byddai dileu cyfrifoldeb strategol yr awdurdod lleol yn llesteirio'r fath dwf yn y dyfodol.