Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

suddo

suddo

Welais i erioed ddyn wedi suddo i anobaith mor ddifrifol o'r blaen.

Roedd y llong yn gollwng dwr ac roedd yn rhaid i'r criw bwmpio ddydd a nos er mwyn ei chadw rhag suddo.

Yn oes yr hwyliau diflannodd llawer llong fawr hardd, a'r unig esboniad a roddwyd yn yr ymholiadau swyddogol oedd y tebygolrwydd mai taro rhewfryn a achosodd iddi suddo, gan foddi pob enaid byw heb adael neb i ddweud yr hanes.

`Ond Dad, mae'r cwch yn mynd i suddo.' `Rydw i'n gwybod hynny, ond mae'r dŵr yn dod i mewn yn araf iawn.

Hawdd gweld fod y cyfan yn ddeunydd chwedloniaeth - hawdd suddo i awyrgylch Krishna a mabinogi'r hen India.

Roedd yr undebau, fu'n chwarae rhan mor allweddol yn hanes Ariannin, yn rhag-weld dadfeiliad y wlad wrth i fwy a mwy o bobl suddo i dlodi ac anobaith.

'Paid â suddo i lefel y cachgi.

'Cau dy geg!' meddai'r broga wrth suddo o'r golwg.

Mynnodd rhain gloddio drifft newydd i lawr i'r Gwscwm, ymhen amser, a chwmni arall a ddaeth o Loegr, sef y Pembertons, tua diwedd y ganrif, yn suddo drifft yng nghanol Porth Tywyn, ac yn nes ymlaen roed y glowyr yn y ddau waith hyn yn gweithio o dan y môr.

Yn hardd a galluog ond heb un ffrind a allai fod wedi trafferthu digon i gyflawni'r ffafr syml o'i chadw'n fyw..." "Paid." "...All siarad o nawr hyd Ddydd y Farn newid dim ar y ffaith mod i wedi'i lladd hi, cyn sicred a phe bawn i wedi suddo cyllell ynddi a throi'n llafn yn y clwyf." "Roeddwn i'n amau.

Marw tros un bron â suddo Yn Gehenna boeth i lawr?

Y mae'r diagram yn dangos y gall dyodiad naill ai fod yn ddŵr arwyneb a fydd yn rhedeg i ffwrdd ac yn llifo'n uniongyrchol i lawr yr afon, neu gall suddo i mewn i'r tir drwy broses a elwir yn ymdreiddiad.

Fedra'i byth fynd yn ôl at Gwyn a'i Dylwyth heb orffen y llifogydd, ond cyn suddo'r lle mi leiciwn orffwys unwaith dan do diwael yn glud dros nos.

Trychnineb Zeebrugge, y llong Herald of Free Enterprise yn suddo a thua 200 yn boddi.

Yn od iawn am stori arall forol (suddo'r stemar fechan Teifi) yn y rhifyn dwytha y cafwyd peth ymateb.

Breuddwydiodd fod y llong yma'n mynd i suddo heno cyn cyrraedd Belg.

Mentrais osod un troed ar y drws, ac yna eisteddais arno a'm pennau-gliniau yn cyffwrdd fy ngên gan ddal fy anadl ac yn disgwyl suddo.

Oedwch yn y tangnefedd tawel ar brynhawn o aeaf fel y gwnaethom ni, i weld yr haul yn suddo'n belen eirias dros benrhyn Llyn, mynyddoedd yr Eifl yn borffor dywyll, a'r eira'n eisin pinc ar gopaon Eryri.

Yr adeg hon hefyd dechreuodd Gaunt ar y gwaith o suddo pwll wrth ochr y ffordd fawr i fynd at wythi%en y Gwscwm a chodi clawdd tua deg troedfedd o uchder a deunaw troedfedd o led, ar y gwaelod, i gario'r glo yn haws i'r harbwr.

Pedair blynedd a barhaodd hwn er hynny gan i long y cwmni suddo mewn storm enbyd gerllaw Lerpwl ac oherwydd hynny daeth terfyn ar yr holl weithgaredd.

Mynnodd rhain gloddio drifft newydd i lawr i'r Gwscwm, ymhen amser, a chwmni arall a ddaeth o Loegr, sef y Pembertons, tua diwedd y ganrif, yn suddo drifft yng nghanol Porth Tywyn, ac yn nes ymlaen roedd y glowyr yn y ddau waith hyn yn gweithio o dan y môr.

Pa gynllun afiach sydd ar y gweill a pha mor isel medra o suddo ac yna ei gyfiawnhau ei hun.

Efallai ei fod wedi derbyn y dyrniad yna fel cosb garedig am suddo'r rafft.

Cafodd ei demtio i orwedd yn ôl yn llonydd, a pheidio â gwneud dim ond gadael i'w gorff suddo i waelod y môr.

Ond nos Sadwrn diwethaf yr oedd yn ddigon teg i rywun holi tybed na fyddai wedi bod yn well cadw Pwll y Gymanwlad a chael y tîm rygbi i ganolbwyntio ar nofio yn hytrach nai weld yn suddo i'r iselderau o gêm i gêm.

dechreuodd suddo!

Cwbl nodweddiadol o fyrbwylltra Pedr yw ei gais, yn yr Efengyl yn ôl Mathew: Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau, ac iddo, wedi cael caniatâd, ddechrau cerdded ar y tonnau nes iddo edrych ar rym y gwynt yn lle ar ras y Gwaredwr ac o ddechrau suddo, gweiddi: A Arglwydd, achub fi.

Ac fe'i gwelais yn suddo hefyd ddwy flynedd yn ôl i fis Gorffennaf diwethaf." Ceisiais feddwl sut y gallwn i drechu ofnau'r truan.

Yna, arweinidod y cawr ef i'r lifft heb yngan yr un gair ac o hwnnw, gyda thraed Willie yn suddo yn y gwely plu o garped, i'w ystafell.

Buan y rhuthrodd y dŵr i mewn i'r tyllau, ac mewn chwinciad roeddwn at fy nghanol yn y llyn a'm traed yn suddo i'r haen drwchus o fwd ar y gwaelod.

Y Titanic yn suddo, 1500 yn boddi.

Ond na, nid oedd dim yn tycio bellach ond turchio i'r gorffennol pell, gorffennol a oedd wedi hen suddo i waelodion yr eigion i bawb ond iddo ef.

Mi fydd raid i mi gael trefn ar y dodrefn cyn iddi dywyllu." Ofnai JR iddi droi yn seiat dan ei ddwylo ac ofnai hefyd fod y car yn suddo yn is.

Wedi gwneud yn siw^r fod y pwysau ar y lein yn ddigon trwm i suddo'r abwyd rhoddodd Alun ei lein yn dw^r a gadael i'w wialen symud gyda'r lli.

"Mae'n rhaid ei fod o wedi suddo yn y gors," meddai'r plismon clên wrthynt.