Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sugden

sugden

Holodd ni'r plant a oeddem ni wedi bod ar gyfyl ystafell Mr Sugden, ond na, gallem gymryd ein llw, ac er bod arni gywilydd mawr o'i hamryfusedd 'doedd dim amdani ond gosod allan liain glân iddo a byw trwy amser cinio ac amser te ac amser swper mewn sachliain a lludw, yn ymwybodol iawn o'i bai ond heb ddweud gair wrth y gŵr gwadd amdano.

Un tudalen felly yw hwnnw sy'n dwyn yr enw Sugden.

Cyn gynted ag y gwelodd hi Mr Sugden y bore 'ma fe sylwodd fod ei fwstas militaraidd yn llawer duach nag ydoedd amser swper neithiwr, a'r gwêr du a ddefnyddiai i sicrhau hyn a achosodd y llinellau budron ar ei liain !

Ni waeth pa beth a ddodai Sugden yn llyfr fy mam, ei lofnod du ar lieiniau Mam a ddug iddo enwogrwydd.