Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sustem

sustem

Credant hwy fod yr ymdrech a wnaeth i ddiwygio'r drefn ar fin methu'n llwyr oherwydd ei fod ef yn rhy gaeth i'r hen sustem gomiwnyddol.

`Roedd clasuron Comiwnyddiaeth,' meddai un economegydd ifanc, `yn dangos sut i fynd o sustem breifat i sustem gomiwnyddol.

Syniad arall pwysig a ddaeth o Comisiwn Warnock oedd bod rhai plant i'w amddiffyn oddi fewn i'r sustem drwy datganiad o addysg arbennig (DAA), sef dogfen fyddai'n diffinio ac adnabod anghenion addysgol plentyn.

Mae'r sustem yn awr dan chwyddwydr.

Mae cynhyrchwyr profiadol yn awyddus i weithio fel hyn, rhai llai profiadol yn gweld mantais sustem fwy tebyg i'r un presennol.

Nid yw'n cynnig atebion rhwydd i ni ynglyn â sut i fynd ati i drefnu'r Gymraeg yn y Cynulliad, ond mae'n dangos pa mor bwysig yw paratoi yn drylwyr i gael sustem effeithiol o'r diwrnod cyntaf un: sustem sydd yn caniatau iddi fod yn hollol ymarferol a phriodol i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ym mhob agwedd o fywyd y Cynulliad.

Aeth Algis Geniusas â ni i fynwent uwchlaw'r hen ddinas yn Vilnius, heibio i'r tai ble'r oedd cŵn bach y drefn gomiwnyddol wedi arfer byw, i fyny y tu hwnt i'r fynwent swyddogol lle'r oedd pwysigion y sustem Sofietaidd yn gorwedd dan eu marmor trwm, draw i fryncyn bychan lle'r oedd cyrff y gwladgarwyr i gyd.

Ond maen nhw i gyd yn cydnabod nad oes y fath beth â sustem gwbl saff.

Ymateb Janet Boyce ar ran yr ysbyty "R'yn ni wedi bod yn ymwybodol o hyn enoed ac, yn ystod y blynyddoedd diwetha', wedi cymryd camre i dynhau'r sustem.

Deuai sain bandiau milwrol yn gyson dros yr awyr, a rhwng hynny clywem areithiau tanbaid, i gyd mae'n siwr yn cyhoeddi rhinweddau y sustem gomiwnyddol, a chanu clodydd y chwyldro mawr a arweiniodd at y fath gyfundrefn lweyrchus.

Byddai'r goeden yn cynhyrchu deunydd ar gyfer amrywiol feddyginiaethau oedd yn ymwneud â gwendid ar y sustem nerfol, mêr yr asgwrn cefn a'r ymennydd.

Fodd bynnag, erys problemau o hyd ynglŷn ag effaith sustem gludiant cyhoeddus Gwynedd ar yr amgylchedd, megis y ffaith fod y cerbydau, yn gyffredinol, yn heneiddio.

O wario arian mawr, fe ellir cael llwyfan, set, sustem sain neu sgrin sy'n dangos hynny, ond yr un yw'r patrwm yn y bon.

Diolchwyd i Gary Holdsworth o'r Asiantaeth Fudd-Daliadau am ei bresenoldeb.Bu iddo fynychu cyfarfod o'r gweithwyr i annerch cynghorwyr ar y DSS a'r sustem fudd-daliadau.

Mae'n bwysig nad ydy cleifion yn mynd ar goll yn y sustem," meddai Hefin Francis, rheolwr cyffredinol y grwp.

Etholwyd Llywodraeth Lafur yn 1945, gyda chymeradwyaeth trwch poblogaeth Cymru, a sefydlu'r wladwriaeth les a'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, yn creu sustem i gefnogi'r diwydiant amaeth, yn gwladoli nifer o ddiwydiannau – polisïau sy'n cael mesur helaeth o gefnogaeth, o leiaf tan y 1970au.

'Dyma yw'r rhan orau o sustem ddemcvrataidd.

Mae'r Adran wedi rhoi cychwyn pendant ar ddefnyddio Technoleg Wybodaeth, gan feddu ar y sustem fwyaf soffistigedig a chynhwysfawr o blith holl adrannau'r Awdurdod.

Yr oedd gan Sgotland eisoes fesur o ddatganoli - ei sustem cyfraith ei hun ac Ysgrifennydd Gwladol gyda sedd yn y Cabinet.

Daliaf i gofio'n arbennig am yr ymadrodd a ddefnyddiwyd droeon ar lafar gwlad i ddisgrifio'r hen sustem greulon, galon-galed a drefnwyd o'r Kremlin: 'Dyw Moscow byth yn wylo.'

Trefniadau Diogelwch - Cloi drysau'r uned ar ôl deg y nos, camera ar y drws i weld pawb sy'n cyrraedd, camerâu eraill yn gwylio'r ward, clo digidol ar y feithrinfa, cardiau adnabod a sustem i'r mamau nodi hynny os ydyn nhw'n gadael y ward.

Fe wnaeth - - y pwynt fod y sustem ar hyn o bryd yn caniata/ u cytundebau pris sefydlog o dro i dro a bod hyn yn gweithio yn dda.

Fel mam, yn naturiol, 'dwi yn llawn dyheadau a gobeithion wrth iddo fentro i'r sustem addysg a chymryd un o'r camau mwyaf yn ei fywyd.

Mi gafodd y ddau adweithydd eu cau yn gynharach eleni pan ddaeth darn yn rhydd yn y sustem.

Mi fyddwn yn euog o gynnal y sustem anghyfiawn ac annemocrataidd bresennol.

Ond mae'n fwy tebyg mai'r sustem oedd ar fai unwaith yn rhagor.

Yn awr atolwg, mi a wn am bobl, yn mywyd pa rai y mae'r sustem hon yn gweithio o chwith, rhai sydd yn barod i gael eu ffrwyno i waith sydd yn golygu disgyn i lawr y bryn.