Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

swllt

swllt

Rhagor o ddogni, dim ond gwerth swllt (5c) o gig ffres i bob person yr wythnos.

'Dwn i ddim pwy rôi i gi yno, heb sôn am blentyn." "Ia, 'ntê, a'r cyflogau'n fychan." "Bychan, i%a; meddyliwch chi rŵan am John yma, yn cael dim ond pymtheg swllt yn yr wythnos ar ôl gweithio blynyddoedd am ddim, a sefyll tu ôl i'r cownter o fore gwyn tan nos, a'r hen ddyn hwnnw'n cerdded o gwmpas y siop, efo'i hen lygada ym mhob man.

At hynny fe geid storiau a cherddi, heb anghofio'r croesair, ynghyd a deg swllt a chwecheiniog am ddatrys.

Yn ogystal â'r ugain punt, 'roedd ganddo ddeuddeg swllt a dwy geiniog yn ariandy cynilo'r llythyrdy ac ychydig o bapurau punt yn y tŷ - swm bach eitha' taclus ac ystyried ei sefyllfa.

Hanner can swllt y dunnell.

Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.

DeuswUt yn y bore, ond swllt erbyn yr hwyr--roedd pris yr hen greadur yn mynd yn is ac yn is.

Yn wir, o ran cymeriad ac ymddangosiad, roedd y ddau mor wahanol i'w gilydd â sofren a swllt.

Un swllt ar ddeg a chwecheiniog yr wythnos, os cofiaf yn iawn, a dalai fy nhad am lety i mi a gofalai yntau wedyn anfon bagiad o datws a swej ac wyau a chig moch i'r hen wraig o dro i dro.

'Roedd ei gŵr yn gwasanaethu yn Ffrainc, meddai, ac yn anfon deuddeg swllt a chwech yr wythnos iddi at ei byw.

(Gyda llaw, os cofiaf yn iawn, dwy bunt dau swllt ac wyth geiniog ydoedd cyflog wythnosol dyn clirio'r eira oddi ar y ffordd y pryd hynny!) Sylwais y bore yma fod asgell-goch ymhlith yr adar oedd yn bwyta briwsion ar y lawnt.

Mi godais yn fore, Mi redais yn ffyrnig I dy Mr Jones I mofyn calennig, Rown wedi bwriadu Cael swllt neu chwe cheiniog, Roedd rhaid im fodloni Ar ddime neu geiniog.

Pymtheg swllt?' 'Ond .

Mewn canlyniad i hynny, cyflogwyd Catherine Pierce, Tŷ Capel Wesle, Abergele am bum swllt yr wythnos.

Mi fyddai pawb ohonyn nhw'n rhoi swllt yr un imi bob dydd Llun ar ôl diwrnod tâl.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Cyfrifais fy eiddo yn fanwl: chwe phunt mewn aur, a deg swllt a chwe cheiniog mewn arian yr wyf yn cofio'n dda.