Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

swmpus

swmpus

Papur swmpus, yn golofnau trwm o dduwch heb lun i'w ysgafnhau.

Aeth John Griffith Williams a ni i gyfnod Owain Glyndwr yn ei nofel swmpus Betws Hirfaen.

Llyfr clawr caled, swmpus fydd e, meddai Myrddin ap Dafydd, perchennog Gwasg Carreg Gwalch.

Mae bod yn swmpus yn arbennig o rinweddol.

Gan fod hon yn gyfrol mor swmpus mae yma ystod eang o arddulliau gan gynnwys y rhai mwy arbrofol na'r arfer fel yr anachronistiaeth.

Canmolodd y beirniaid drylwyredd y ddau safle, a oedd yn swmpus, yn drefnus, yn sylweddol ac yn ddeniadol.

O ran ei straeon byrion, dyma gyfrol fwyaf swmpus Mihangel Morgan, gydag ugain stori fer ynddi.

Y ddau air syn cael eu defnyddio amlaf i ddisgrifio llyfrau Cymraeg yw lliwgar a swmpus.

Serch hynny, mae'r hanesion yn ddifyr ac yn cadw diddordeb y darllenwr tan y diwedd ac mae'r cynnwys ieithyddol yn ddigon swmpus i roi her i ddysgwr sydd o ddifri am wella'i afael ar y Gymraeg.

Gwnaeth Dafydd Jones, Dremddu gymwynas â'r ardal trwy gasglu a chrynhoi hen benillion, arferion a llên gwerin y fro mewn traethawd swmpus.

'Roedd yn adroddiad swmpus ac yn gyffredinol ar gyfer Cymru gyfan.

Dim ots os yw eich llyfr y peth mwyaf syrffedus dan haul o ran cynnwys - cyn belled âi fod yn lliwgar ac yn swmpus mi fydd yr adolygwyr wedi eu plesio.