Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

swper

swper

Tamaid o swper fyddai hi wedyn, a noson arall i gyfeiliant sŵn teipio tan y bore bach.

Mae hi yn cyrraedd at fwrdd swper gyda'r nos a chwpaned o goffi o hyd.

Dim problem--swper hyfryd iawn, a chofio troi'r botwm ar y wal ar ôl gorffen y coginio.

Wrth fynd at y drws, fe groesodd ei meddwl yn sydyn, fel y gwnaeth droeon yn ddiweddar, tybed beth fuasai ymateb ei mam - a'i thad, ran hynny - i'r fath ddarpariaeth a spaghetti i swper.

Yn aml iawn fe ddeuai llais Rwsiaidd ar y lein yn rhybuddio'r un oedd yn galw fod honno wedi mynd am ei swper ac felly roedd rhaid aros tan iddi ddychwelyd cyn ein cysylltu ni â Phnom Penh.

Arferai Mr Roberts weithio fel coitsmon mewn plasty ond erbyn y cyfnod hwn roedd mewn gwth o oedran ac yn gaeth i'r tŷ; a chofiaf Mrs Roberts yn egluro i mi fel yr arferai hi fynd i'r Belle Vue bob nos i geisio peint o gwrw i'w gŵr efo'i swper.

"Dos di yn syth i nôl Cymro, ac i ddweud yr hanes am Dad wrth Mr Bassett, Idris," meddai Cadi, "ac fe aiff Deio a minnau i'r tŷ i gynnau tân ac i hwylio swper." "O'r gore," meddai Idris, ac i ffwrdd ag ef.

Yr hyn a gawsom i swper y noson gyntaf oedd tafellau o goes porc wedi eu rhostio, gyda thatws, pys a chawlifflwr, i ddewis y lleiaf lletchwith o'r tair ymdrech yn y Geiriadur Termau.

O dipyn i beth syrthiodd y darnau i'w lle gydag ymweliadau â BBC Cymru, S4C, Derwen, Y Cynulliad, Siriol, cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant gyda swper yn dilyn â chyfle i gwrdd a Dirprwy Faer Caerdydd a llond lle o bobol ddylanwadol a gwybodus.

Gyda Concorde fe allem gael brecwast adre, cael coffi ganol bore yn America a dod nol i swper.

Dewch, mae'n oeri fan hyn, ac mae'n bryd swper beth bynnag.

Yr oedd ei ysbryd yn anhapus a dreng cwbl anaddas i fod mewn swper.

Neithiwr daeth i mewn i'm hystafell yn dwyn fy swper ar hambwrdd, ac meddai, gyda rhyw ffug sancteiddrwydd, "Ydi dy frest ti'n fwy rhydd, Hannah?

Cafodd y gwesteion a'r aelodau dipyn o swper cyn mynd adref - diolch i bawb a gyfrannodd tuag at y bwyd.

Meddyliais am fy nhŷ gwag; fawr o ddim yno ar wahân i ddau wy, tamaid o gaws a choffi du i swper, a'r awydd i fwyta mwy ond heb yr hawl i wneud hynny.

Ond does wiw ichi holi beth yn union y mae'r lluniau yn ei olygu, oherwydd ni chlywodd y gofalwyr erioed am y Drindod, y Forwyn Fair, y Geni Gwyrthiol, y Swper Olaf ac yn y blaen.

Arferai Waldo fynd i lawr i Rosaeron i gynnau tân i'w ewythr bob dydd, ac ar bob nos Sul fe âi'r ewythr i gael swper yng nghartref Waldo.

Ar ddiwedd y dydd yr oedd swper i'r helwyr yn y Bedol, ac anfonodd yr Yswain un o'i weision i'r Wernddu gyda chenadwri at Harri am iddo ddyfod i'r swper yn ddi-ffael.

Ma'i bron yn amser swper.

Roedd yna hyd yn oed wahoddiad i newyddiadurwyr gael swper gyda theulu Iddewig.

Gyda llaw, be sy gen ti yn y sospan yna?" "Bara llaeth ar gyfer swper," meddwn i, yn symud y sospan o gwr y tân ar y pentan.

Cafwyd swper wedyn yn 'Tafarn y Llwyn'.

'Rhaid i mi gael un arall eto,' meddai Bleddyn, 'i ni gael un bob un i swper heno.

Gweinyddwyd y Sacrament o Swper yr Arglwydd ar ôl y bregeth yng ngwasanaeth yr hwyr.

Un diwrnod, a John Howell ac Alf Williams yn defnyddio'r uchelseinydd ym Mhontlotyn, yr oedd gwr ifanc newydd ddychwelyd adref o'r pwll, ac yn bwyta'i swper yn y gegin gefn.

Disgwylir tua chant o bobl yno i ymuno yn y dathlu ac i fwynhau'r swper mawreddog.

Wedi clirio'r llestri swper, rhoi proc i'r tân a dŵr yn y botel ddŵr poeth, casglodd Laura Elin y cwbl ynghyd a pharatoi i cychwyn.

Teimlai Mam yn reit ddigalon ar ôl y ffiasgo amser swper a'r ffrae wedyn ac i'w chysuro'i hun aeth i nôl tomen o hen albwms lluniau i sbio drwyddynt.

Ar hanner eu swper, neu ar fin mynd allan y mae miloedd o'r bobl sy'n edrych ar y newyddion.

Holodd ni'r plant a oeddem ni wedi bod ar gyfyl ystafell Mr Sugden, ond na, gallem gymryd ein llw, ac er bod arni gywilydd mawr o'i hamryfusedd 'doedd dim amdani ond gosod allan liain glân iddo a byw trwy amser cinio ac amser te ac amser swper mewn sachliain a lludw, yn ymwybodol iawn o'i bai ond heb ddweud gair wrth y gŵr gwadd amdano.

Wedyn cefais fynd i ddinas a oedd gryn bellter o'r lle yr arhoswn a chefais swper efo boneddiges oedd â'i Chymraeg yn berffaith.

Brithyll wedi'i ffrio, dyna gawn ni i swper heno.'

Erbyn inni gyrraedd Llanilar yr oedd swper sylweddol wedi ei goginio ar ein cyfer.

Y mae geiriau Iesu yn y Swper Olaf yn cyfeirio at gyfamod newydd ac at waed fel symbol o'r cyfamod newydd hwnnw.

Mae'r Gymdeithas yma yn cynnal swper ac adloniant i ddathlu Gwyl Dewi Sant ond nid ar y diwrnod priodol.

'Wyt ti eisiau inni gael milgi?' gofynnodd Sharon i mi ar ôl swper.

Cyfrwch eich cyllyll a'ch ffyrcs ar ôl cael y taclau draw am swper...

Penderfynais yn y fan a'r lle y byddwn i'n gadael rhan o'r pryd bwyd nesaf ar ochr fy mhlât er mwyn i Mam boeni tipyn 'mod i'n sâl, ond pan ddaeth amser swper o'r diwedd roeddwn i ar lwgu ac mi lyncais bob tamaid.

Ma'r spaghetti yn y sospan yn barod i'ch swper.

Wedi cyrraedd adre', cael cinio hefo'r teulu a the a thipyn o swper; wedyn tri o'i frodyr yn ei ddanfon i'r stesion i ddal y trên wyth i Gaergybi.

Felly, be mae'r gymdeithas yn tueddu i'w wneud yw trefnu'r swper yng nghanol mis Mawrth.

Cyn gynted ag y gwelodd hi Mr Sugden y bore 'ma fe sylwodd fod ei fwstas militaraidd yn llawer duach nag ydoedd amser swper neithiwr, a'r gwêr du a ddefnyddiai i sicrhau hyn a achosodd y llinellau budron ar ei liain !

Sal: Pysgod Nant-las i swper, brithyllod a samwn, llyswennod wrth y llath o rabanau'r gors .

Roedd hi'n ddydd Sadwrn cyn y caniataodd ei fam i Alun fynd i Faes y Carneddau i ddychwelyd y ffon, ac ar ôl bwyta'i swper cychwynnodd ar ei daith.

Yr oedd pawb ar lwgu, ond tra oedd eu mam yn paratoi pryd o fwyd - rhywbeth rhwng te a swper - aeth y plant i gyd allan, croesi'r ardd ffrynt ac i'r cae.

Aeth i weld ei dad yn yr ysbyty cyn mynd i'w waith y noson honno, ar ôl rhoi swper i'w gwningen a chadw'r cŵn yn eu cwt.

Lliniarwyd y siom gan y swper ardderchog a'r sgwrs anfarwol a gefais gydag ER Yn ei

Bwtyai nhw, ar ryw ffurf neu'i gilydd, gyda phob pryd; gyda'i facn i frecwast, a'i gig i'w ginio, ar dafell i'w de ac mewn salad i'w swper; yn falurion yn ei gawl, yn sudd yn ei saws, yn stibedi o gylch ei gaws; wedi eu berwi a'u ffrio a'u stwnsio a'u stwffio.

Roedden nhw wedi gwahodd Crist i swper.