Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

swyno

swyno

Fodd bynnag caiff caredigion yr oesoedd canol eu swyno gan y stori hon o hyd, a hefyd boddhad o'r ysgolheictod cadarn sy'n ei chyflwyno inni yma.

Mi gewch chi ddarganfod hynny drwy ddarllen y llyfr; digon yw dweud i'r creadur bach newydd yma lwyddo i swyno'r darllenwyr yn ty ni.

Ar y llaw arall, gallai fod wedi codi o du'r arweinyddiaeth annibynnol sy'n ymddwyn fel petaent wedi cael eu swyno gan Brad Roynon.

Mor dda hefyd y cofiai ei chyfnither, Anna Maria, merch ei Hewyrth Joseph y ddwy ohonynt ar lawnt fechan Trefeca Isaf yn gorwedd ar eu cefnau i weld y sêr a'r lleuad trwy delesgop rhyfeddol ei hewyrth, wedi eu swyno gan ddirgelwch peiriant a fedrai dynnu'r sêr a'r nef ei hun mor agos atynt.

Wedi i March apelio eto at Arthur, danfonodd y brenin 'wyr cerdd dafod' i swyno Trystan, ond dychwelyd i'r llys a wnaethant, wedi i Drystan eu gwobrwyo ag aur.

O'r funud gyntaf, cawsom ein swyno gan y lle - y pentref glân ar droed y mynydd enfawr, y tai a'u bocsus blodau lliwgar, cwrteisi'r bobl, a hwyl ein cyd-deithwyr yng Ngwesty Montana.

Roedd llais cras, haerllug Owen Owens yn swyno pawb ohonom.

Cai sylw a llwyddiant hefyd: Fy llais a yfai llysoedd: Megis gwin neu drwmgwsg oedd Yn swyno pob rhyw synnwyr Mewn llyffethair llesmair llwyr.

Byddai'i glywed yn siarad y Ddyfedeg bur yn fy swyno.

Cefais fy swyno gan y cyflwyniad gorchestol.

Roedd y llwyfan wedi troi'n ogof hud a lledrith, lle'r oedd holl gymeriadau hoffus a hardd y Nadolig, yn goed ac adar, tylwyth teg, angylion, cor a Sion Corn ei hun yn ein swyno a chreu naws y tymor gydag amrywiaeth hyfryd, hyd at uchafbwynt y cyfan yn nrama'r Geni.